Mae prosiect Only Human Adferiad wedi lansio dau arolwg pwysig, ac fe fyddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr i’n helpu i gasglu cymaint o ymatebion â phosibl.
Bydd yr arolygon hyn yn ein helpu i ddeall profiadau ein defnyddwyr gwasanaeth yn well, ac i ddeall canfyddiadau’r cyhoedd o gaethiwed a stigma, gan siapio ein gwaith i’r dyfodol a sicrhau bod lleisiau’r bobl rydyn ni’n ei cefnogi – a’r cyhoedd yn gyffredinol – yn cael eu clywed.
Beth yw’r arolygon hyn?
Rydym yn cynnal dau arolwg ar hyn o bryd:
- Arolwg Defnyddwyr Gwasanaeth – ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio unrhyw rai o’n gwasanaethau caethiwed ar hyn o bryd, neu wedi eu defnyddio’n flaenorol.
- Arolwg Barn Gyhoeddus – yn agored i bawb
Rydym yn anelu am:
- Tua 100 o ymatebion i’r Arolwg Defnyddwyr Gwasanaeth
- Tua 200 o ymatebion i’r Arolwg Barn Gyhoeddus
Bydd y ddau arolwg yn agored tan y 31ain o Fai.
Cymerwch ran neu rhannwch
Os oes gennych chi ychydig funudau, os gwelwch yn dda ystyriwch gwblhau’r arolygon eich hun a’u rhannu gyda’ch rhwydweithiau, eich cyd-weithwyr, a’r chyda’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.
- Arolwg Defnyddwyr Gwasanaeth:
https://www.surveymonkey.com/r/BG9JYCV - Arolwg Barn Gyhoeddus:
https://www.surveymonkey.com/r/BGK3TF3
Sut y gallwch chi helpu
- Rhannwch yr arolygon gyda defnyddwyr gwasanaeth ble’n briodol
- Pasiwch nhw ymlaen i gydweithwyr, i partneriaid, ac i gysylltiadau cymunedol
- Helpwch ni i ledaenu’r neges heb lethu eich rhwydweithiau
Bydd eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n helpu i gyrraedd ystod eang ac ystyrlon o ymatebion.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda cysylltwch gyda’r tîm Only Human.
Os ydych chi’n profi unrhyw broblemau gyda’r arolwg yma, yna cysylltwch â chloe.harrison@adferiad.org os gwelwch yn dda
Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth!