Mae Neil Hussey wedi bod yn Oedolyn Priodol gydag Adferiad ers bron i 15 mlynedd – rôl sydd wedi ei weld yn cefnogi miloedd o unigolion sy’n agored i niwed ar draws De Cymru a Gwent, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Cyn ymuno â’r gwasanaeth, treuliodd dros 30 mlynedd yn gweithio yn y maes adeiladu ar adeiladau’r gwasanaeth sifil ar draws y rhanbarth. Ni allai barhau i weithio mewn rôl gorfforol yn dilyn damwain yn y gweithle, ac fe ddechreuodd chwilio am ffyrdd newydd i gyfrannu i’w gymuned leol ym Merthyr Tudful.
Fe helpodd gwirfoddoli mewn prosiectau ieuenctid a chymunedol Neil i ddarganfod ei angerdd i gefnogi pobl. Ehangodd ei brofiad yn ddiweddarach i wasanaethau troseddu ieuenctid a gwasanaethau plant, ac yn ystod y cyfnod hwn fe dderbyniodd alwad ffôn ynghylch dod yn Oedolyn Priodol gydag Adferiad.
Yn 2011, ymunodd Neil â’r gwasanaeth, gan gynnig arweiniad annibynnol i unigolion sydd wedi cael eu harestio ac yn cael eu dal yn y ddalfa. Mae Oedolion Priodol yn chwarae rôl hanfodol i sicrhau bod hawliau a llesiant pobl sy’n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn yn ystod cyfweliadau gyda’r heddlu a phrosesau cyfreithiol – yn cynnwys bob math o achosion, o droseddau llai megis lladrad neu ymosodiad i droseddau difrifol yn cynnwys treisio a llofruddiaeth.
Yn agosáu at 15 mlynedd yn y rôl erbyn hyn, dywed Neil nad yw “erioed wedi edrych yn ôl” ac mai’r unig beth mae’n ei ddifaru yw na ddechreuodd ynghynt.
Eisteddodd Rhodri Harrison o Dîm Cyfathrebu Adferiad i lawr i gael sgwrs gyda Neil am ei amser o fewn y gwasanaeth.
Rhodri: Helo Neil, diolch am siarad efo ni. Allwch chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi ac amdan eich rôl?
Neil: “Fy enw ydi Neil, rwy’n 69 oed, yn 70 ym mis Gorffennaf – ac rwy’n Oedolyn Priodol ar gyfer Adferiad, yn cefnogi pobl sy’n agored i niwed tra maent yn y ddalfa.
“Mae pob diwrnod yn wahanol, ac mae fy ymagwedd wastad wedi bod yn un o siarad gyda phobl ar lefel bersonol ac i wneud yn siŵr eu bod yn deall y broses yn llawn.”
Rhodri: Pam ydych chi’n meddwl bod cefnogaeth Adferiad, a rôl yr Oedolyn Priodol, yn bwysig i bobl yn y ddalfa?
Neil: “Ar y cychwyn, nid yw pobl yn ein croesawu ni bob amser, ond rydym yno i gynorthwyo unigolion sy’n agored i niwed a’u helpu i ddeall yr hyn sy’n cael ei ofyn ohonynt.
“Rwyf wedi cefnogi pobl sy’n cael trafferth darllen neu ysgrifennu – mae’r unigolion hynny’n arbennig o agored i niwed, a’n rôl ni yw i sicrhau nad ydynt yn cael eu rhoi dan anfantais.
“Mae Oedolion Priodol yn hollol annibynnol o’r heddlu, ac mae llawer o bobl yn agor i fyny i ni pan maent yn sylweddoli ein bod ni yno iddynt hwy.”
Rhodri: Rydych wedi bod yn rhan hanfodol o’r gwasanaeth ers bron i 15 mlynedd. Sut ydych chi’n myfyrio ar eich hamser yn y rôl?
Neil: “Roedd gen i fentor da iawn, pan ddechreuais i gyda’r gwasanaeth, Darren O’Connell, sydd ddim gyda’r gwasanaeth bellach – ac fe ddaliodd fy llaw i bob pwrpas ac fy arwain i mewn i’r rôl.
“Rwy’n ceisio cynnig yr un gefnogaeth honno i unrhyw un newydd sy’n meddwl dod yn Oedolyn Priodol. Mae’n werthfawr cael rhywun i siarad gyda nhw ynghylch yr achosion anodd.
“Y rhan anoddaf yw’r ansicrwydd o beidio gwybod pryd y bydd yr alwad nesaf yn dod. Rwyf wedi gweithio pob Dydd Nadolig, ond gallaf ddweud yn hollol onest nad wyf wedi edrych yn ôl ers y diwrnod cyntaf y cychwynnais.
“Oedolion Priodol yw’r ‘falf diogelwch’ sy’n sicrhau bod pobl yn y ddalfa yn cael eu hawliau wedi eu hamddiffyn ac yn deall y broses. Mae pobl yn ganolog i’r rôl yma, a’n blaenoriaeth ni yw i’w rhoi nhw yn gyntaf.”
Rhodri: Rydych wedi gweld y gwasanaeth yn esblygu dros amser. Pa newidiadau sydd wedi sefyll allan fwyaf i chi?
Neil: “Mae cymaint mwy o ymwybyddiaeth rŵan ynghylch cefnogi unigolion niwroamrywiol – dyna yw un o’r newidiadau mwyaf.
“Ond rwy’n meddwl bod mwy i’w wneud ar gyfer pobl sydd ddim yn gallu darllen neu ysgrifennu. Mae Oedolion Priodol yn hanfodol i’w helpu i ddeall beth sy’n digwydd ac i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl.
“Er bod yr heddlu yn atgyfeirio atom, rydym yn hollol annibynnol ohonynt. Fy swydd i yw i gefnogi’r person yna ac i’w helpu i ddeall y broses.
“Rwyf wedi cael adborth positif gan bobl oedd yn amharod i ddechrau ond a ddiolchodd i mi yn ddiweddarach am eu helpu drwyddo. Mae’n werth chweil gwybod fy mod wedi gwneud gwahaniaeth i rhywun sydd mewn sefyllfa ble roeddent yn agored i niwed.”
Ym mis Chwefror 2017, gwnaethpwyd newidiadau sylweddol i’r diffiniad o ‘berson sy’n agored i niwed’ o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (1984), gan ychwanegu mwy o ganllawiau manwl o gwmpas y diffiniad. Yn gynwysedig o fewn y newidiadau hynny roedd:
- Disodliad “Yn agored i niwed yn feddyliol”
- Diffiniad Swyddogaethol – ystyried person fel bod ‘yn agored i niwed’ os ydynt yn cael anhawster i ddeall neu gyfathrebu
- Adnabyddiaeth Rhagweithiol – cyflwynodd yr adolygiadau ofyniad rhyngweithiol i’r heddlu i “gymryd camau rhesymol” i adnabod ac i gofnodi ffactorau sy’n dangos y gallai person fod yn agored i niwed ac angen Oedolyn Priodol.
- Ffactorau penodol – mae’r codau diwygiedig yn disgrifio ffactorau i’r heddlu i archwilio amdanynt, megis bod yn awgrymadwy iawn, yn awyddus i blesio, yn mynd yn gymysglyd yn hawdd, neu’n cael anhawster deall cwestiynau.
- Rhai 17 mlwydd oed yn cael eu trin fel Plant – Mae unrhyw un sy’n cael eu hadnabod fel bod o dan 18 oed yn cael eu trin fel plentyn, gan gryfhau’r amddiffyniadau ar gyfer rhai 17 mlwydd oed.
Mae ymroddiad Neil dros y 15 mlynedd diwethaf yn amlygu’r rôl hanfodol mae Oedolion Priodol yn ei chwarae i ddiogelu hawliau a llesiant unigolion sy’n agored i niwed yn y ddalfa. Mae ei dosturi a’i ymrwymiad yn adlewyrchu cenhadaeth Adferiad – gan sicrhau bod pawb yn derbyn cefnogaeth sydd yn deg ac yn ddeallus pan maent ei hangen fwyaf.