Newyddion     29/04/2026

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?

Gydag etholiadau’r Senedd yn agosáu, mae’r pleidiau gwleidyddol ar draws Cymru wedi dechrau gosod allan eu blaenoriaethau ar gyfer cyfnod nesaf y senedd. Mae’r maniffestos o’r holl brif bleidiau yn cynnig mewnwelediad i sut mae pob un yn bwriadu ymateb i’r pwysau cynyddol ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Dros y misoedd diweddar, rydym hefyd wedi gosod allan ein blaenoriaethau ninnau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, wedi eu gwreiddio mewn profiad rheng flaen a lleisiau’r rhai hynny sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Mae’r rhain yn ffocysu ar ataliaeth, mynediad, integreiddiad, a sicrhau bod profiad byw yn ganolog i wneud penderfyniadau.

Felly, beth yw blaenoriaethau’r pleidiau?

 

Beth rydyn ni’n ei hoffi

Mae yna gonsensws clir ac un a groesawir ar draws y pleidiau gwleidyddol ar nifer o feysydd allweddol.

Ataliaeth ac ymyrraeth gynnar

Ar draws y sbectrwm gwleidyddol, yn cynnwys Llafur Cymru, y Gwyrddion, a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae yna bwyslais cryf ar symud tuag at ataliaeth a chefnogaeth gynnar. Mae’r cynigion yn cynnwys ehangu gwasanaethau cymunedol, cryfhau’r gefnogaeth ar gyfer pobl ifanc, a mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd megis tlodi a thai.

Integreiddiad a gofal cyd-gysylltiedig

Mae ymrwymiadau i wella’r integreiddiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn amlwg ym maniffestos Llafur Cymru, Plaid Cymru, Reform UK, a Cheidwadwyr Cymru. Tra mae’r dulliau’n amrywio – o ddiwygio strwythurol i well cydlyniad – mae yna gydnabyddiaeth a rennir bod darnio’n parhau i fod yn her allweddol.

Datblygiad y gweithlu a gofalwyr

Mae cefnogaeth ar gyfer y gweithlu a gofalwyr di-dâl hefyd yn thema gyson. Mae Llafur Cymru, Plaid Cymru, a Cheidwadwyr Cymru i gyd yn cynnwys ymrwymiadau sy’n ymwneud â chyflogau, hyfforddiant, a chydnabod gofalwyr, tra mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n tynnu sylw at yr angen i gau’r bwlch rhwng hawliau gofalwyr a’r realiti ar lawr gwlad.

 

Beth rydym eisiau gweld mwy ohono

Er bod yna arwyddion positif, mae llawer o’r meysydd yn parhau i fod yn dan-ddatblygedig.

Darpariaeth ac atebolrwydd

Tra mae uchelgais yn amlwg ar draws yr holl bleidiau, mae’r manylder ynghylch sut y darperir yr ymrwymiadau’n aml yn gyfyngedig. Mae cwestiynau’n parhau parthed cyllid, gweithrediad, ac atebolrwydd.

Profiad byw a chyd-gynhyrchiad

Er bod y mwyafrif o’r pleidiau’n cyfeirio at ymgysylltiad, mae llai o eglurder ynghylch sut bydd pobl sydd â phrofiad byw yn cymryd rhan ystyrlon wrth siapio gwasanaethau a pholisi. Mae angen i hyn fod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol sydd â diddordeb gwirioneddol mewn gwella gwasanaethau.

Anghenion cymhleth a bylchau yn y system

Mae llai o ffocws cymharol ar bobl sydd ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd, yn cynnwys y rhai hynny sy’n profi heriau salwch meddwl a defnydd sylweddau, gydag ychydig o sôn am faterion o’r fath ym maniffesto yr un blaid er bod tystiolaeth glir o’r bylchau mewn cefnogaeth.

 

Casgliad

Ar draws y maniffestos gan Llafur Cymru, Plaid Cymru, Ceidwadwyr Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y Blaid Werdd, a Reform UK, mae yna gydnabyddiaeth gref bod yn rhaid i’r system newid. Mae ymrwymiadau cryf ar ataliaeth, integreiddiad, a datblygiad y gweithlu yn galonogol.

Yr her nawr yw i gyflawni. Rydym yn galw ar i bwy bynnag sydd yn chwarae rhan yn Llywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu iechyd meddwl pobl Cymru; boed hynny’n rai sydd â llesiant meddyliol gwael, salwch meddwl difrifol, problemau caethiwed a defnydd sylweddau, neu’r rhai sy’n darparu gofal di-dâl.

Fel sefydliad hirsefydlog sy’n gweithio ar draws Cymru, ac ar draws nifer o sectorau, i gefnogi ac i rymuso pobl sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth, mae Adferiad yn credu mewn darparu’r llwybr cyflymaf a hawsaf i adferiad. Gallwch ddarllen mwy am ein pum blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru yma.

Wrth i’r 7fed o Fai agosáu, mae yna gyfle i’r holl bleidiau i symud y tu hwnt i uchelgeisiau lefel uchel ac i osod cynlluniau allan sy’n gredadwy, wedi eu costio’n llawn, ac yn atebol. Bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru nid yn unig i osod cyfeiriad, ond hefyd i arddangos sut y bydd newid ystyrlon, parhaol yn cael ei gyflawni.

Cliciwch y dolenni isod i ddarllen maniffestos y pleidiau:

Llafur Cymru

Plaid Cymru

Ceidwadwyr Cymreig

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Plaid Werdd

Reform UK