Newyddion     06/04/2026

Rhoi Pobl yn Ganolog mewn Gofal Argyfwng

Rhoi Pobl yn Ganolog mewn Gofal Argyfwng

Nid yw ail-ddylunio gwasanaethau argyfwng iechyd meddwl yn ymwneud â newid systemau neu lwybrau yn unig, mae’n ymwneud â newid sut rydym yn gweithio gyda phobl. Dangosodd gweithdai diweddar a arweiniwyd gan Adferiad ochr yn ochr gyda Pherfformiad a Gwella GIG Cymru pa mor bwysig yw hi i gynnwys y rhai hynny sydd â phrofiad byw mewn siapio’r gefnogaeth iechyd meddwl maent yn dibynnu arni.

Daeth un brif thema yn amlwg: mae gwasanaethau yn gweithio’n well pan maent wedi eu hadeiladu gyda phobl, nid dros bobl. Roedd y rhai hynny â phrofiad o argyfwng yn aml yn disgrifio systemau oedd yn teimlo’n ddryslyd, yn fratiog, ac, ar adegau, â diffyg tosturi. Trwy ddod â defnyddwyr gwasanaeth, staff, a phartneriaid at ei gilydd, yn yr un lle, fe symudodd y drafodaeth. Daeth yn llai am drwsio pobl, ac yn fwy amdan drwsio sut mae cefnogaeth yn cael ei chynnig.

Un o’r mewnwelediadau mwyaf pwerus oedd y gall ‘argyfwng’ olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Mae perygl o fethu’r pwynt trwy geisio ei ddiffinio’n rhy gul. Beth sy’n fwy pwysig yw sut mae’r gwasanaethau’n ymateb: cymryd amser i wrando, i gyfathrebu yn glir, ac i ddeall beth sydd ei angen ar unigolion yn y foment honno.

Roedd rôl y trydydd sector hefyd yn sefyll allan yn amlwg. Daw sefydliadau megis Adferiad â gwahanol fath o arbenigedd o fod wedi eu gwreiddio mewn profiad byw, mewn cysylltiad cymunedol, a hyblygrwydd. Yn hytrach na chael ein gweld fel ychwanegiad, mae ein cyfraniad yn hanfodol. Mae trin y trydydd sector fel partner cyfartal ochr yn ochr â’r gwasanaethau statudol yn helpu i greu system fwy cydgysylltiedig ac ymatebol.

Mae’r gweithdai wedi archwilio fframwaith syml: rhywle i fynd, rhywun i helpu, a rhywun i gefnogi. Tra’n syml, mae’r syniadau hyn yn adlewyrchu bylchau go iawn yn y system bresennol. Mae pobl angen gofodau croesawgar, diogel, nid dim ond adrannau brys prysur. Maent angen ffyrdd eglur a hawdd i gael mynediad i gymorth, ac ymatebion sy’n teimlo’n ddynol, nid yn glinigol yn unig. Ac, yn bwysig, ni ddylai’r gefnogaeth ddod i ben yn sydyn unwaith mae’r argyfwng uniongyrchol wedi pasio.

Beth sydd islaw hyn i gyd yw cynhyrchu ar y cyd. Nid yw’n ymarfer untro, ond yn ffordd barhaus o weithio. Golygai gydweithio, gwerthfawrogi gwahanol fathau o arbenigedd, a bod yn agored i wneud pethau yn wahanol.

Os yw gwasanaethau o ddifri am wella gofal argyfwng, nid yw’r ymagwedd yma’n opsiynol, mae’n hanfodol.