Newyddion     27/02/2026

Dengys Ymchwil Newydd y Cysylltiad Rhwng y Defnydd o Ganabis ac Anhwylderau Seiciatrig

Dengys Ymchwil Newydd y Cysylltiad Rhwng y Defnydd o Ganabis ac Anhwylderau Seiciatrig

Mae’r wythnos hon yn nodi cyhoeddiad un o’r astudiaethau hydredol mwyaf i archwilio’r defnydd o ganabis yn ystod y glasoed a’i gysylltiad gyda datblygiad anhwylderau seiciatrig mewn oedolion ifanc.

Trwy ddefnyddio data iechyd o dros 460,000 o unigolion, darganfu’r awduron bod y defnydd o ganabis yn y glasoed yn gysylltiedig â chynnydd yn y risg o nifer o anhwylderau seiciatrig erbyn dod yn oedolion ifanc, yn enwedig anhwylderau seicotig a deubegwn.

Fel sefydliad sy’n ymrwymedig i sicrhau bod cefnogaeth effeithiol a thosturiol ar gael i unigolion sy’n byw gyda salwch meddwl difrifol megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn, rydym yn cefnogi cynnig yr awduron yn gyfan gwbl, y gallai’r canlyniadau hyn hysbysu datblygiad ymyraethau clinigol ac addysgiadol ar gyfer rhieni, pobl ifanc yn y glasoed, a chlinigwyr. Rydym yn gobeithio hefyd gweld polisïau amddiffynnol yn eu lle yn y dyfodol i atal neu i oedi’r defnydd o ganabis yn y glasoed, yn enwedig oherwydd y twf cynyddol mewn deddfwriaeth canabis ar draws y byd.

Rydym yn awyddus i archwilio’r mater hwn ymhellach ac yn anelu i ymchwilio trwy ein hymchwil ychwanegol ein hunain dros y misoedd sydd i ddod.

Darllenwch y papur ymchwil yma