Campaigns     20/08/2025

Only Human

Only Human

Ni ddylai neb osgoi gofyn am help am eu bod ofn cael eu barnu.

Dyma pam rydym yn mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â chaethiwed trwy sgyrsiau yn y gymuned a’r gweithle, yn ogystal ag ymgyrchu’n genedlaethol am Gymru sy’n fwy tosturiol a chydymdeimladol.

Mae Only Human yn darparu llwyfan i bobl sydd â phrofiad byw o gaethiwed i ddweud eu straeon. Fel ein Pencampwyr Only Human, bydd yr unigolion hyn yn ein helpu i ddarparu sgyrsiau gwrth-stigma mewn gweithleoedd a lleoliadau cymunedol, gan ledaenu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r stigma sy’n gysylltiedig â chaethiwed.

Rydym eisiau grymuso unigolion i gael sgyrsiau iach ynghylch caethiwed, gan ffocysu ar bwysigrwydd ceisio am gefnogaeth a phŵer adferiad. Gyda gwell addysg a dealltwriaeth, gallwn greu diwylliant ble mae stigma’n cael ei herio, ac mae help wastad o fewn cyrraedd.

Gyda’n gilydd, rydym yn newid y sgwrs o gwmpas caethiwed yng Nghymru.