- Cefnogwyd dros 110,000 o bobl gan y National Gambling Support Network, a ddisgrifiwyd fel bod yn ‘hanfodol’, ers ei lansiad yn Ebrill 2023
- Gwelwyd cynnydd o 93% mewn ymyraethau byr – sgyrsiau byr, fel arfer, i leihau’r risg o niwed
- Ymagwedd rhanbarth yn gyntaf, wedi ei adeiladu ar wybodaeth leol ar gyfer pobl lleol, yn gweld hunan-atgyfeiriadau uniongyrchol i’r gwasanaethau darparwyr yn cynyddu o dros 50%
- Pobl yn cael y cynnig o asesiad cyntaf o fewn dau ddiwrnod ar gyfartaledd
- Amcangyfrifir bod 21,000 o bobl wedi eu cyfeirio i opsiynau atgyfeirio darparwyr NGSN gan wefan darganfod gwasanaeth GambleAware ers ei lansiad yng Ngorffennaf 2024
8fed Mai, 2025: Data newydd a ryddhawyd heddiw yn dangos faint o bobl a gefnogwyd gan y National Gambling Support Network (NGSN) ers ei lansio yn 2023, gyda’r data hefyd yn dangos cynnydd o dros 50% mewn hunan-atgyfeiriadau yn yr ail flwyddyn. Dengys hefyd bod amseroedd aros am asesiad cyntaf hefyd yn cael eu cynnig wedi dau ddiwrnod ar gyfartaledd.
Ers Ebrill 2023, mae’r NGSN wedi cefnogi dros 110,000 o bobl dros y ddwy flynedd ers ei lansiad. Sylfaenir hyn ar y nifer o unigolion a gafodd fynediad i wasanaethau yn cynnwys llinell gymorth y National Gambling Helpline, darparwyr rhanbarthol, a gwasanaethau sylfaenol a phreswyl. Mae’r rhain yn syrthio i dair haen o gefnogaeth (Haenau 2-4) yn cynnwys asesiadau, ymyraethau byr, ymyraethau byr estynedig (‘EBI’), sesiynau triniaeth, adolygiadau ac ôl-ofal.
Gellir gweld effaith ymagwedd rhanbarth yn gyntaf, sydd wedi ei ddylunio i ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau lleol i bobl, a mynediad i ddarparwyr sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gymuned leol, drwy fwy o unigolion yn cael mynediad i gefnogaeth yn uniongyrchol gan eu darparwr lleol, gyda hunan-atgyfeiriadau i mewn i’r system yn cynyddu o dros 50% ers y lansiad.
Mae ymyraethau byr (‘BI’), sy’n cynnwys strategaethau tymor byr yn anelu at fynd i’r afael â niwed gamblo trwy sgyrsiau cyfyngedig o ran amser, yn galluogi ymgysylltiad cynnar a chefnogaeth cyn i’r heriau gynyddu, ac yn cynnig cyngor ac arwyddbostio i gymorth pellach os oes angen. Mae cynyddu cefnogaeth gynnar wedi bod yn ganolog i’r NGSN ac o ganlyniad gwelwyd cynnydd sylweddol yn y rhain yn ail flwyddyn y rhwydwaith, gan ddyblu bron iawn gyda chynnydd o 93%, o 11,000 i dros 21,000 o bobl yn derbyn ymyrraeth ystyrlon.
Golygai cefnogaeth person-ganolog fod pobl hefyd yn cael mynediad i wasanaeth sy’n gweithio iddynt hwy ac o amgylch eu bywydau a’u hamgylchiadau personol, megis cefnogaeth cyfoedion, gwaith grŵp, a therapi 1:1. Mae’r amser aros ar gyfer asesiad cyntaf, ar gyfartaledd, yn ddau diwrnod nawr, a hynny ar draws y rhwydwaith.
Trwy gynnydd mewn gweithgaredd allgymorth ac ymgysylltiad a gwelliannau mewn celfi megis darganfod gwasanaeth GabmleAware i wella ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael ymhlith gweithwyr proffesiynol rheng flaen a’r cyhoedd, mae unigolion yn fwy tebygol o ymgysylltu’n uniongyrchol gyda gwasanaethau cefnogaeth lleol.
Ers lansio gwefan darganfod gwasanaethau GambleAware yng Nghorffennaf 2024, rydym wedi gweld amcangyfrif o 21,000 o bobl yn cael eu cyfeirio i opsiynau atgyfeirio darparwr NGSN, sy’n cynnwys dolenni i gyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn, ffurflenni atgyfeirio a gwefannau.
Yn aml, bydd y rhai hynny sydd â’r achosion mwyaf difrifol o niwed gamblo hefyd angen triniaeth Haen 4, sef y lefel gofal mwyaf arbenigol a dwys o fewn y NGSN, ble mae person yn aros mewn canolfan driniaeth breswyl.
Mae Jackie Menzies, o Southport, yn un person sydd wedi elwa o gefnogaeth yr NGSN a’r gofal haen 4. Dechreuodd Jackie gamblo pan roedd yn 20 oed, ac wedi iddo sylweddoli fod effaith y niwed gamblo yn cael effaith ar ei iechyd meddwl a’i lesiant, cyfeiriwyd ef at gefnogaeth gan Cheryl Williams, yn y darparydd NGSN, Adferiad, a disgrifiodd y gwasanaeth a dderbyniodd fel un a “achubodd ei fywyd”.
Dywedodd Jackie, sydd nawr yn 38: “Mae arnaf i fy mywyd i Cheryl a’r tîm yn Adferiad.
“O’r foment y cefais fy nghyflwyno iddynt, gwnaethant gysylltu â mi, fy hysbysu, a’n nhrin gyda pharch a dealltwriaeth tuag ataf i a’n nghaethiwed. Cefais fy arwain a’n hysbysu o’r opsiynau a allai fod ar gael i mi a sut y byddwn yn gallu cael help.
“Cefais driniaeth yn eu Canolfan Parkland Place ac, o agweddau grymuso’r staff, rwyf wedi cofrestru mewn cwrs cwnsela Lefel 3 yn fy ngholeg lleol, ac rwy’n edrych tua’r dyfodol i allu helpu pobl sy’n dioddef gyda chaethiwed fel rwyf i, i dyfu ac i allu dod o hyd i heddwch a hapusrwydd unwaith eto.”
Dywed Anna Hargrave, Dirprwy Prif Weithredwr yn GambleAware: “Cynigiodd ail flwyddyn y National Gambling Support Network gyfle i ddysgu o’r flwyddyn gyntaf ac i ganolbwyntio ar sut y gallwn gefnogi’r rhai hynny a effeithir gan niwed gamblo orau.
“Rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o bobl a gefnogir ac, yn bwysig, cynnydd yn y nifer o ymyraethau byr a hunan-atgyfeiriadau, sy’n golygu y gallwn gefnogi pobl yn gynharach a lleihau’r perygl o niwed pellach.
“Mae’r arbenigedd o fewn y rhwydwaith heb ei ail ac mae darparwyr yn chwarae rôl allweddol i helpu pobl ar draws y wlad, boed hynny ar ddechrau eu taith, neu’n eu cefnogi ar y diwedd. Edrychwn ymlaen i weithio gyda chomisiynwyr y dyfodol a’r NGSN gydag integreiddiad y rhwydwaith i fewn i system y dyfodol i sicrhau y gall darparwyr barhau i gynnig eu gwasanaethau hanfodol.”
Mae gwaith sylweddol wedi ei wneud i wella’r gefnogaeth a’r gofal mae unigolion yn eu derbyn, gyda’r NGSN yn darparu ystod o ymyraethau llwyddiannus, o gynnydd mewn gweithgareddau atal ac ymyraethau cynnar cymunedol i ddatblygiad parhaus ehangu llwybrau mwy effeithiol i mewn i driniaeth strwythuredig. Trwy wneud hyn, mae wedi sicrhau a galluogi mynediad i gefnogaeth i fwy o bobl ac i gyflawni deilliannau cryf, gyda system dim drws anghywir i leihau effaith niwed gamblo.
Dywedodd Joy Allen, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Durham, ac eiriolwr lleisiol dros atal niwed gamblo: “Mae gan gamblo, fel unrhyw gaethiwed, y pŵer i reoli bywydau y rhai a effeithir a’r rhai agosaf atynt yn gyfan gwbl. Gall effeithio’n negyddol ar unigolion yn ariannol, yn emosiynol, yn gymdeithasol, ac yn nhermau eu llesiant meddyliol.
“Mae’n rhaid i ni feddwl am gaethiwed i gamblo yn yr un modd yr ydym yn meddwl am ac yn cefnogi rhai sydd â chaethiwed i Gyffuriau ac Alcohol. Mae’n salwch a all arwain i bobl yn troseddu i fwydo eu caethiwed ac mae’r rhai sy’n gaeth iddo angen eu hadsefydlu, nid eu cosbi. Yn sicr, gall arwain i drallod llwyr. Amcangyfrifir bod bron i 500 hunanladdiad yn gysylltiedig â gamblo yn Lloegr bob blwyddyn, sy’n amlygu’r angen brys i annog mwy o bobl i geisio am help. Yn 2023, roedd tua 5% o boblogaeth y Gogledd Ddwyrain oedd dros 16 oed yn cael eu cyfrif fel gamblwr ‘mewn risg’, yn aml yn gwario mwy na allent ei fforddio ac yn mynd ar ôl colledion gan arwain i straen ariannol, gorbryder a straen.
“Mewn ymateb, ac yn unol â’r blaenoriaethau rwyf wedi eu rhoi yn eu lle i fynd i’r afael â niwed gamblo, mae Heddlu Durham wedi arwyddo’r Siarter Gamblo Cenedlaethol sy’n ymrwymo’r Heddlu i ddarparu hyfforddiant arbenigol ar gyfer eu swyddogion er mwyn iddynt allu adnabod rhai sydd mewn risg a’u harwyddbostio tuag at gefnogaeth. Anogaf sefydliadau eraill i wneud yn yr un modd. Gyda’n gilydd fe allwn, ac fe wnawn, wneud mwy.”
Mae’r National Gambling Support Network ar gael i unrhyw un sy’n profi niwed o gamblo ac eisiau cefnogaeth ar ei gyfer, yn cynnwys pobl a effeithir gan gamblo rhywun arall. Mae’r holl wasanaethau am ddim ac yn gyfrinachol. Am fwy o wybodaeth, chwiliwch am GambleAware neu cysylltwch â’r Llinell Gymorth Gamblo Cenedlaethol, sydd ar gael 24/7, ar 0808 8020 133.