Gwasanaeth Therapiwtig ac Ymlyniad Cadarnhaol i Bobl Ifanc

Sir:

Manylion cyswllt

Ffôn:

01982 448090

E-bost:

YPTPAS@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae’r Gwasanaeth Therapiwtig ac Ymlyniad Cadarnhaol i Bobl Ifanc Powys yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl ifanc ar draws sir Powys. Darparwn gefnogaeth therapiwtig sy’n ystyriol o drawma i bobl ifanc a theuluoedd sy’n profi anawsterau gyda phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma.Mae ein cefnogaeth yn gyfannol, yn berson-ganolog, yn ystyriol o drawma, ac wedi ei theilwra i anghenion pob unigolyn. Rydym hefyd yn darparu unrhyw gefnogaeth arall a allai fod ei angen gan unigolion niwroamrywiol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn bobl ifanc a’u teuluoedd ym Mhowys. Mae aelodau ein tîm yn hyblyg er mwyn eich cyfarfod mewn lleoliad o’ch dewis, boed hynny yn y cartref, yn yr ysgol, neu yn ein safle yn Llanelwedd. Gallwn hefyd gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc drwy ymgynghoriad a hyfforddiant.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein staff yn cydweithio’n agos gyda phobl ifanc i adnabod eu cryfderau, adnoddau, a’u nodau, i greu cynlluniau triniaeth ar y cyd. Rydym yn hyrwyddo newid positif ac yn grymuso unigolion i oresgyn heriau. Gallai gwaith therapiwtig uniongyrchol gynnwys cyfuniad o sesiynau cwnsela unigol, sesiynau therapi teulu, ymyrraethau argyfwng, seicoaddysg, ymarferion adeiladau sgiliau, technegau ymlacio, ac ymyrraethau ymddygiadol.

Atgyfeirio

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bobl ifanc rhwng 10 i 16 mlwydd oed, sy’n byw yn neu’n mynychu’r ysgol ym Mhowys. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r yn rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.