Dydd Iau 21 Tachwedd yw Diwrnod Hawliau Gofalwyr, ac yn unol â thema eleni ‘Cydnabod Eich Hawliau’ mae gwasanaethau Gofalwyr a Chymorth i Deuluoedd Adferiad ar draws Cymru wedi trefnu ddigwyddiadau llu i gynnig popeth sydd angen i ofalwyr di-dâl ei wybod am reoli eu cyfrifoldebau gofalu.
Gyda llawer o’r rhai sy’n gofalu am rywun annwyl yn anymwybodol o’u hawliau cyfreithiol, rydym am sicrhau bod Gofalwyr yn cael gwybod am eu hawliau, ac yn gallu cael gafael ar gymorth yn hawdd i’w helpu i ofalu am eu lles eu hunain yn ogystal â’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Mae Gofalwyr di-dâl yn rhoi cymaint i’n cymunedau, gan gyfrannu dros £162 biliwn i’n heconomi bob blwyddyn ac arbed y system iechyd a gofal cymdeithasol rhag cwympo – mae’n hen bryd i’r aelodau gwerthfawr hyn o’n cymdeithas dderbyn y parch y maent ei angen a’i haeddu.
Mae Adferiad yn darparu bron i 30 o brosiectau ledled Cymru sydd â’r nod penodol o gefnogi gofalwyr a’u lles, a sicrhau bod eu lleisiau a’u barn yn cael eu clywed. Bydd ein timau ymroddedig o o’r gwasanaethau hyn yn cynnal y digwyddiadau, sy’n cael eu cynnal rhwng dydd Mawrth 19 Tachwedd a Diwrnod Hawliau Gofalwyr ddydd Iau yr 21ain, gan gynnig cyfle i ofalwyr di-dâl gwrdd a chymdeithasu â gofalwyr eraill yn eu hardal a chael y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am eu hawliau. Mae llawer o’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, gan roi cyfle i ofalwyr gael mynediad at ystod o wybodaeth a chyngor gwerthfawr.
Gellir dod o hyd i amserlen y digwyddiad isod – dewch o hyd i’ch digwyddiad lleol a dewch draw ar y diwrnod!
19 Tachwedd;
10am – 4pm yn Ysbyty De Sir Benfro, Ford Road, Doc Penfro, Sir Benfro
10.30am – 2.30pm yng Nghanolfan Bridges, Parc Drybridge, Trefynwy, Sir Fynwy
1pm – 3pm yng Nghlwb Rygbi Cwmbrân, Cwmbrân, Torfaen
20 Tachwedd
10am – 4pm yn Ysbyty Llwynhelyg, Gorllewin Hwlffordd, Sir Benfro
10am – 2pm yn Hwb Gofalwyr Gwent, 1-3 Marchnad Canol Mews, Pont-y-pŵl
21 Tachwedd
10am – 12pm yng Nglan yr Afon, Casnewydd
10am – 12pm yn Nhŷ Bedwellty, Tredegar, Blaenau Gwent
10.30am – 2.30pm yng Ngholeg Iâl Wrecsam, Ffordd Parc y Gelli, Wrecsam
11am – 1pm yn Chapter Arts, Treganna, Caerdydd
11am – 3pm yn Storiel, Ffordd Gwynedd, Bangor, Gwynedd
1pm – 3pm yng Nghaffi Milwr, The Coach Park, Mostyn Broadway, Llandudno, Conwy
1pm – 4pm yn Adferiad, 16 Heol y Frenhines, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn neu ein gwasanaethau ar gyfer gofalwyr di-dâl, cysylltwch â:
Northwales-carers@adferiad.org neu Southwales-carers@adferiad.org