Am y Prosiect
Mae prosiect Pedair Wal Adferiad yn darparu cefnogaeth lle bo’r angen ar draws Sir Ddinbych i unigolion sy’n profi salwch meddwl ac ag anghenion sy’n ymwneud â thai. Mae’r prosiect hwn wedi profi i fod yn fuddiol i unigolion drwy eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain, yn ddiogel ac yn annibynnol, ac yn agos i ffrindiau a theulu.
Ein nod cyffredinol yw i ddarparu cefnogaeth sy’n meinio er mwyn i unigolion allu cynnal tenantiaethau tymor hirach, torri’r cylchdro digartrefedd / bod yn agored i niwed, a’u galluogi i fyw yn annibynnol.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn unigolion 18 oed ac uwch ar draws Sir Ddinbych sy’n profi salwch meddwl difrifol, sydd neu allai fod mewn perygl o golli eu tenantiaeth.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae ein cefnogaeth yn helpu cleientiaid i ddod yn fwy annibynnol ym mhob ardal o’u bywyd, sy’n cynnwys:
- Cefnogaeth i reoli llety ac i deimlo’n ddiogel
- Cefnogaeth i reoli perthynasau
- Helpu i wneud dewisiadau ac i gymryd risgiau positif
- Cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
- Cefnogaeth i adnabod ac i gael mynediad i hyfforddiant ac addysg
- Cefnogaeth i gaffael cyflogaeth a gwaith gwirfoddol
- Cefnogaeth ac arwyddbostio gyda chyllido a materion ariannol
- Help gyda rheoli materion corfforol
- Help gyda rheoli iechyd meddwl
Atgyfeirio
Cewch eich atgyfeirio i’r prosiect Pedair Wal gan Dîm Grant Cefnogaeth Tai Cyngor Sir Ddinbych fel arfer, a byddwn yn ystyried pob atgyfeiriad.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.