Mae’r rhai hynny sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn wynebu set unigryw o heriau pan yn addasu ac yn ailintegreiddio i fywyd sifil. Efallai y byddent yn profi straen difrifol, unigrwydd, ac yn ei chael yn anodd i uniaethu â rhai sydd ddim wedi rhannu eu profiad. Gall y berthynas a’r gymrodoriaeth a rennir gan gyn-filwyr y Lluoedd Arfog, felly, fod yn rhan hanfodol o’r adferiad ar gyfer personél cyn-filwrol, gan eu galluogi i archwilio yr hyn sy’n eu poeni ac i ddatblygu sgiliau ymdopi gyda’r hyder o wybod bod rhywun yn gwybod yn union beth maent yn mynd drwyddo.
Mae Newid Cam yn wasanaeth gan Adferiad sy’n darparu cefnogaeth hanfodol i gyn-filwyr a’r gymuned Lluoedd Arfog ar draws Cymru, gyda ffocws arbennig ar y rhai hynny sy’n profi salwch meddwl difrifol a heriau cysylltiedig. Un peth sy’n gosod Newid Cam ar wahân yw ei ymagwedd mentora cymheiriaid: cefnogaeth a ddarperir gan gyn-filwyr, ar gyfer cyn-filwyr. Mae gan staff ddealltwriaeth uniongyrchol o realiti bywyd milwrol, ac yn creu amgylchedd ble mae unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu deall, a’u parchu.
Mae mentora cymheiriaid yn ganolog i athroniaeth Newid Cam, gyda’r gefnogaeth yn cael ei darparu gan unigolion sydd wedi wynebu heriau tebyg, sy’n galluogi lefel unigryw o ymddiriedaeth a chysylltiad. Mae’n ymagwedd sy’n helpu i gael gwared o’r rhwystrau ac yn annog unigolion i agor i fyny ynghylch eu brwydrau.
Mae Mentoriaid Newid Cam yn darparu arweiniad un i un, cyngor ymarferol, ac anogaeth barhaus, gan dynnu o’u profiad eu hunain i helpu cyn-filwyr eraill i lywio’r cyfnodau anodd yn eu bywydau. Mae pob person yn derbyn asesiad llawn o’u hanghenion, gan sicrhau bod y gefnogaeth a gynigir wedi ei theilwra ac yn effeithiol. Mae Mentoriaid Cymheiriaid nid yn unig yn darparu cefnogaeth uniongyrchol, maent hefyd yn helpu unigolion i gael mynediad i wasanaethau arbenigol. Trwy weithio ochr yn ochr gyda sefydliadau eraill, mae Newid Cam yn sicrhau bod cyn-filwyr, eu teuluoedd, a’u gofalwyr yn derbyn y cefnogaeth gynhwysfawr sydd ei hangen arnynt i symud ymlaen.
Gall effaith yr ymagwedd yma newid bywydau, fel yr amlygir gan Peter, sydd wedi profi’r gefnogaeth a gynigir gan y gwasanaeth. Cyn cysylltu gyda Newid Cam, roedd mewn lle tywyll iawn, yn wynebu’r posibilrwydd gwirioneddol o gael ei droi allan o’i fflat, ac yn ansicr ynghylch ble i droi. Trwy fentora cyn-filwr i gyn-filwr, fe allodd gael rheolaeth ar ei sefyllfa. Dywedodd Peter, “Mae Newid Cam wedi bod yn gyfryngol i newid fy mywyd,” gan amlygu’r gwahaniaeth dwfn wnaeth y gwasanaeth ar adeg anodd iawn. Gyda’r gefnogaeth a ddarperir, nid yw bellach ag ôl-ddyled ar ei rent, mae’n derbyn y budd-daliadau mae ganddo’r hawl iddynt ac mae’n ymgysylltu mewn cwnsela i helpu ei adferiad. Myfyriodd hefyd ar ymroddiad y tîm gan ddweud fod ganddo “fentor cymheiriaid anhygoel,” a chanmol eu hymrwymiad i fynd y filltir ychwanegol.
Mae storïau fel un Peter yn amlygu pwysigrwydd cysylltiad a dealltwriaeth wrth oresgyn straen difrifol. Mae Newid Cam wedi cefnogi miloedd o gyn-filwyr a’u teuluoedd ar draws Cymru, gan ddangos y rôl bwerus y gall mentora cymheiriaid ei chwarae i helpu unigolion i ail-adeiladu eu bywydau ac i ailddarganfod gobaith.