Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, adlewyrchwn ar y menywod ysbrydoledig sy’n helpu i’n gwneud yr hyn ydym ni fel Adferiad. Dyma’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi bob dydd, ein cydweithwyr, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, a’r nifer o bartneriaid a chymunedau sy’n siapio a chryfhau ein gwaith. Mae Adferiad wedi ei siapio gan fenywod pwerus sydd â straeon pwerus i’w hadrodd; ac yr un yn fwy na Ruth Wilson.
O gael ei chadw (‘sectioned’) o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yng nghanol y 1990au i 24 mlynedd yn gweithio gydag Adferiad erbyn hyn, dengys stori Ruth sut gall y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir, ynghyd â phenderfyniad, newid bywyd go iawn. Siaradom gyda Ruth ynghylch sut y newidiodd hi ei bywyd, a helpu cymaint o bobl eraill i wneud yr un peth ar hyd y daith.
“Roeddwn yn byw yn Lerpwl yn ystod canol y 1990’s pan chwalodd fy iechyd meddwl yn gyfan gwbl. Arweiniodd mannau gwan, yn cynnwys llety anniogel, PTSD, profedigaeth, a defnydd sylweddau i mi fod yn hunanladdol ac, yn y diwedd, i brofi chwalfa seicotig.
Cefais fy nghadw ac fe dreuliais y flwyddyn ddilynol yn yr ysbyty. Roeddwn yn teimlo bod popeth oedd yn fy ngwneud i yn fi yn cael eu tynnu i ffwrdd. Nid oedd gennyf unrhyw annibyniaeth, roedd popeth yn cael ei wneud ar fy rhan a neb yn gofyn unrhyw gwestiynau sylfaenol i mi megis “sut wyt ti?” a “sut mae hyn yn teimlo?”
Ym 1995, cefais fy annog i symud i Gymru. Ychydig o newid fu yn y cychwyn, ac fe dreuliais flwyddyn arall yn yr ysbyty. Teimlais fel nad oedd gennyf unrhyw ymdeimlad ohonof i fy hun ac nad oedd gen i unrhyw beth i’w gynnig. Teimlais wedi’n nad-ddyneiddio’n sefydliadol. Gwaethygwyd hyn gan y stigma tuag at salwch meddwl yn y 1990’au, gan fy ngadael yn teimlo math dinistriol o gywilydd. Roedd hyn ochr yn ochr ag ymdeimlad o anobaith llwyr.
Yna, fe newidiodd pethau.
Ym 1996, cefais fy atgyfeirio gan fy nhîm gofal i brosiect newydd 24 awr yn Aberystwyth – yr Ystwyth, yn cael ei redeg gan Adferiad (yr NSF/Hafal yn flaenorol). Cefais y cynnig o fflat hyfryd yn y dref. Roedd cael fy nghartref fy hun yn rhywbeth rhyfeddol. Roedd gen i’r gefnogaeth ddyngarol ac empathig yma hefyd. Roedd gan y staff ffydd ynof ac yn y posibilrwydd o’n nyfodol. Golygai’r gefnogaeth y gallwn wneud fy mywyd yn fywyd i mi fy hun unwaith eto.
Galluogodd ethos Adferiad o ffocysu ar adferiad i mi ailddysgu sgiliau bywyd ac i fagu hyder. Nid oeddwn erioed wedi cyfarfod pobl oedd yn credu y gallai pobl wella o’r blaen, roedd fel petai bod eich diagnosis gennych a dyna ni, nid oedd unrhyw siwrnai y gallech fynd arni. Roedd Adferiad yn gwneud pethau mewn ffordd wahanol iawn – fe allwch wella, fe allwch fynd i mewn i waith, gallwch wneud beth bynnag rydych chi’n teimlo fydd yn eich boddhau. Golygai y gallwn ddychwelyd i hen ddiddordebau neu ddod o hyd i rai newydd. Golygai y gallwn ddysgu a datblygu eto.
Mae Adferiad wastad wedi annog cleientiaid i gyfrannu tuag at redeg y gwasanaeth, ac felly dois yn wirfoddolwr gweithredol. Arweiniodd hyn wedyn i mi ddod yn gyflogai yn Adferiad yn 2002. Rhoddodd hyn gyfle gwych i mi i ddefnyddio fy mhrofiadau i wneud daioni. Rwyf wedi gweithio i’r sefydliad ers 24 mlynedd erbyn hyn, fel Rheolwr ac fel Gweithiwr Cefnogol. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi cael y fraint enfawr o helpu cleientiaid fel y cefais i fy helpu, a’u gweld yn dod o hyd i’w ffordd i adferiad.
Mae cael y cyfle i weithio gyda’r sefydliad wedi bod yn wych, gan ddefnyddio’r hyn roedd eraill wedi ei wneud i’ch helpu chi i helpu eraill, yn gwybod y byddan nhw’n gwneud yr un peth hefyd rhywdro, gobeithio. Mae wastad wedi bod yn fraint enfawr i fod yn rhan o sefydliad sydd eisiau gwneud pethau’n well. Rydym yn byw mewn cymdeithas ble mae’n ymddangos bod pethau’n gwaethygu, felly mae cael ychydig o oleuadau ymlaen yn mynd i fod yn gynyddol bwysig, ac rwy’n meddwl mai Adferiad yw un o’r goleuadau hynny.
Mae’n anodd crynhoi y 24 mlynedd yn gryno, ond mae llawer wedi newid mewn iechyd meddwl, ac mae Adferiad, Hafal ac NSF Cymru wedi bod yn gyfryngol wrth arwain y newid hwnnw. Roedd y stigma roedd pobl â diagnosis iechyd meddwl yn ei wynebu yn ddigyffelyb ac nid oedd cyfleoedd ar eu cyfer yn bod.
Os oes gennych unrhyw fath o gydwybod cymdeithasol, rydych eisiau bod yn rhan o rhywbeth a all yrru newid, ac rwy’n meddwl bod Adferiad wedi bod yn flaengar iawn o ran arwain y newid hwnnw mewn cefnogaeth, nid yn unig iechyd meddwl ond hefyd caethiwed i gyffuriau ac ar draws y bwrdd mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cael y cyfle hwnnw i helpu pobl ac i’w gwylio’n newid, i’w gweld yn cyflawni rhywbeth, yn dangos eich bod wedi gwneud rhywbeth sydd werth ei wneud.
Roedd NSF Cymru, Hafal ac Adferiad yno i mi pan nad oedd unrhyw un arall, yn credu ynof pan nad oedd unrhyw un arall yn gwneud hynny. Peidiwch ag anghofio pam rydyn ni yma, a bod yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn bwysig.”
Os hoffech gymryd rhan neu os hoffech ddarganfod mwy am waith Adferiad yng Nghymru, cysylltwch â ni yn info@adferiad.org