Newyddion     29/05/2025

Adferiad yn sicrhau cyllid ar gyfer Prosiect Tai o Safon i Gyn-filwyr yng Nghymru

Adferiad yn sicrhau cyllid ar gyfer Prosiect Tai o Safon i Gyn-filwyr yng Nghymru

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi sicrhau cyllid o £1miliwn ar gyfer prosiect cefnogaeth tai ar gyfer cyn-filwyr wedi ei leoli yn Llandrindod, Powys.

 

Bydd y prosiect yn rhoi cefnogaeth hanfodol i gyn-filwyr yng nghanol Cymru, ardal sydd ag angen sylweddol am lety ar gyfer ein cymuned cyn-filwyr.

Bydd yr arian, a ddyfarnwyd gan Gyfamod y Lluoedd Arfog, yn galluogi datblygiad Fronheulog, cartref gofal gaeodd yn 2016. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ail-bwrpasu ac i foderneiddio’r safle sydd ddim yn cael ei ddefnyddio, gan ei drawsnewid i mewn i 12 fflat hunangynhwysol a byngalo wedi ei ddynodi ar gyfer atgyfeiriadau cyn-filwyr digartref.

 

Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â digartrefedd ymhlith cyn-filwyr yng nghanolbarth Cymru, trwy ddarparu datrysiadau tai tymor hir, fforddiadwy, o safon i sicrhau llesiant cyn-filwyr sydd wedi eu gwthio i’r cyrion, trwy wasanaethau cefnogaeth wedi eu teilwra.

 

Dywedodd Michael Harvey, Pennaeth Gwasanaethau Cyn-Filwyr, Adferiad:

“Mae’n wych sicrhau cyllid i ail-ddatblygu’r adeilad presennol sydd wedi ei adael yn wag ac heb ei ddefnyddio ers blynyddoedd maith. Bydd y grant hwn yn ein galluogi i ddarparu llety ychwanegol a chefnogaeth ar gyfer Cyn-filwyr yng Nghymru.

 

“O’r cais presennol, gwyddom bod galw am gefnogaeth i gyn-filwyr yng nghefn gwlad canolbarth Cymru i atal digartrefedd posibl ac rydym yn hyderus y bydd y datblygiad hwn yn helpu.”