Customize Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorized as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customized advertisements based on the pages you visited previously and to analyze the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

Newyddion     07/02/2022

Mental Health UK yn lansio ‘Hyb Rhianta’ Clic

Gyda 75% o afiechydon meddwl yn dechrau cyn bod person yn troi’n 18 mlwydd oed, mae tystiolaeth yn dangos bod darparu cymorth ataliol da a chynnar yn y lle cywir yn medru helpu osgoi iechyd meddwl pobl ifanc rhag dirywio.

Fodd bynnag, fel rhieni a gofalwyr, nid oes yr un ateb i bawb wrth i ni gefnogi iechyd meddwl ein plant ac mae’n medru bod yn brofiad anodd i’r sawl na sydd yn medru cael mynediad at y wybodaeth a’r cymorth cywir.

Dyna pam bod ein partneriaid yn Mental Health UK wrth ein bodd yn lansio ein platfform newydd, yr Hyb Rhianta, gan roi diolch i  SC Johnson, sef cwmni teuluol sydd wedi ymrwymo yn yr hirdymor i gefnogi’r cymunedau lle y mae’n gweithredu.

Mae’r Hyb Rhianta yn gymuned ar-lein newydd i rieni a gofalwyr i gael gafael ar wybodaeth a mynediad at gymorth gan gymheiriaid. Bydd yn;

  • darparu awyrgylch diogel i rieni i rannu profiadau, cefnogi ei gilydd a chael mynediad at gyngor arbenigol,
  • darparu adnoddau i rieni i ddysgu am iechyd meddwl a sut i gefnogi ein plant yn well,
  • adeiladu hyder rhieni i gael sgyrsiau positif ac i drafod iechyd meddwl.

Bydd yr Hyb Rhianta yn cael ei gymedroli ddydd a nos gan arbenigwyr  Adferiad Recovery sydd wedi eu hyfforddi fel bod rhieni a gofalwyr yn medru teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi i drafod llesiant ein plant yn ein gofodau Sgyrsiau a Fforymau. Bydd Mental Health UK yn cynnal sesiynau holi ac ateb bob dau fis gyda phaneli o arbenigwyr er mwyn trafod pynciau sydd yn berthnasol i iechyd meddwl pobl ifanc fel y cyfryngau cymdeithasol a rheoli straen arholiadau.  Bydd y safle yn cynnwys adnoddau gyda gwybodaeth ymarferol a chanllawiau ar gyfer rhieni a gofalwyr am yr hyn i’w wneud os ydynt yn poeni am iechyd meddwl person ifanc,  sef deunydd sydd wedi ei greu gan y tîm Pobl Ifanc arbenigol sydd wedi bod yn cynnal y rhaglen Bloom mewn ysgolion ers 2019.

Mae Enda Egan yn Bennaeth Rhaglenni Pobl Ifanc yn Mental Health UK ac yn arwain ar y gwaith o greu’r Hyb Rhianta,

“Rydym yn ddiolchgar iawn i SC Johnson am eu rhodd sydd wedi ein caniatáu i greu ein platfform ar-lein newydd i rieni a gofalwyr. Mae cysylltu gyda rhieni eraill nid yn unig yn fanteisiol ar gyfer rhannu gwybodaeth a chyngor i gefnogi iechyd meddwl ein plant ond hefyd yn hanfodol ar gyfer llesiant rhieni a gofalwyr eu hunain.  Rydym ond yn medru bod yno ar gyfer pobl ifanc yn ein bywydau os ydym ninnau hefyd yn teimlo ein bod yn cael ein cefnogi’n dda a dyma pam ein bod wedi dod ynghyd gyda  SC Johnson er mwyn creu’r adnodd hynod werthfawr hwn.

Mae’r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar bobl ifanc gydag astudiaethau yn cyfeirio at lefelau cynyddol o drallod, pryder a gorbryder (Barnardo’s, Mental Health Foundation, Prifysgol Strathclyde), ac felly, daw lansiad yr Hyb Rhianta ar adeg hanfodol.

Mae’r Hyb Rhianta nawr yn fyw ac  yn cyd-ddigwydd ar yr un pryd â’r Wythnos Iechyd Meddwl i Blant. Rydych yn medru cofrestru ar gyfer yr Hyb Rhianta heddiw gan ddod yn rhan o’n cymuned o rieni a gofalwyr, a bod yno ar gyfer y bobl ifanc yn ein  bywydau.

Ymunwch â’r weminar nesaf ar 17 Chwefror a byddwn yn trafod sut i gefnogi’r bobl ifanc yn eich bywyd fel rhiant neu ofalwr a derbyn cymorth eich hun. Bydd y  weminar yn gyfle i ddysgu mwy am yr Hyb Rhianta a gofyn unrhyw gwestiynau i’r panel.