News     07/01/2022

Cyfarwyddwr Adferiad Recovery Yr Athro Euan Hails yn derbyn MBE

Mae Adferiad Recovery  yn falch iawn i gyhoeddi bod ein Hathro Euan Hails wedi derbyn MBE fel rhan o Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Mae’r Athro Euan Hails yn Gyfarwyddwr Llywodraethiant Clinigol a Therapiwtig ac yn nyrs ymgynghorol gyda  Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac yn gyfrifol am ddatblygu nyrsio a gweithwyr iechyd ac yn datblygu a’n arwain practis clinigol sydd yn seiliedig ar seicoleg ac ymchwil.

Mae wedi treulio gyrfa yn helpu’r sawl sydd mewn angen, yn arwain ar y gwaith o ddatblygu gwasanaethau cenedlaethol, Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) ar draws Cymru ac wedi ei gydnabod am ei waith ym maes iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Roedd yr Athro Hails wedi chwarae rhan yn Hafal am nifer o flynyddoedd fel Ymddiriedolwr, a hynny’n fwy diweddar fel Is-gadeirydd cyn dod yn Gyfarwyddwr Adferiad Recovery ac mae wedi helpu i ddatblygu, llywio ac adnabod gwasanaethau, ac wedi cefnogi’r Prif Weithredwr a hyfforddi aelodau a staff.

Wrth wneud sylw ar ei MBE, dywedodd yr Athro Hails: “Mae’n syndod, yn rhywbeth annisgwyl. Mae’n anrhydedd. Mae’n hyfryd iawn i gael fy nghydnabod.

“Roeddwn wedi hyfforddi fe nyrs yn yr 80au ac wedi cymhwyso yn 1987. Rwy’n arbenigo mewn helpu plant a phobl ifanc.

“Rwy’n credu i mi gael fy nenu i’r maes hwn yn sgil fy mhrofiadau fy hun, gan fod teulu gennyf.

“Roedd fy nhad-cu yn nyrs iechyd meddwl ac roedd fy mam yn weithiwr cymdeithasol iechyd meddwl ac roedd hyn yn ddylanwad sylweddol, wrth i mi ymweld â’r llefydd yr oeddynt yn gweithio ynddynt wrth i mi dyfu fyny.

“Mae’n dda i weld iechyd meddwl plant a’r gwaith o gwmpas hyn yn cael ei gydnabod.”

Hoffem oll longyfarch Euan ar ei MBE ac rydym yn diolch iddo am ei waith parhaus.