Mae Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi cyhoeddi fod Cronfa Iechyd Meddwl a Llesiant Cyn-filwyr wedi dyfarnu £8,898,456 i 14 o brosiectau mawr drwy gyfrwng y Rhaglen Llefydd, Llwybrau a Phobl, gan gynnwys ni yn Adferiad Recovery.
Mae 10 grant wedi ei ddyfarnu yng ngwledydd a rhanbarthau’r DU, er mwyn datblygu cymorth gwell a chydlynus ar gyfer cyn-filwyr lleol ag anghenion iechyd meddwl.
Mae 10 grant Portffolio wedi eu dyfarnu; un yn yr Alban, un yng Nghymru ac un yng Ngogledd Iwerddon gyda saith grant rhanbarthol wedi eu dyfarnu yn y DU. Ar draws yr holl bortffolios; roedd 165 o brosiectau unigol wedi eu cefnogi.
Bydd grant Adferiad yn cael ei ddefnyddio er mwyn cydlynu portffolio o brosiectau ar draws Cymru. Byddwn yn sicrhau bod yna lwybrau sydd yn cysylltu gyda’i gilydd ac sydd yn gweithio’n dda ar gyfer cyn-filwyr; mae yna lefydd diogel i gyn-filwyr i fynd er mwyn cysylltu gyda’r llwybrau yma; a bod gwirfoddolwyr a staff sydd yn cefnogi cyn-filwyr yn cael mynediad at hyfforddiant a gwaith a’n gweithio gyda mudiadau eraill o fewn llwybrau iechyd meddwl cyn-filwyr.
Dywedodd Melloney Poole, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog:
“Rydym yn gyffrous iawn am y potensial sydd gan y grantiau yma er mwyn creu newid real a go iawn. Drwy’r grantiau yma, mae cyn-filwyr ag anghenion iechyd meddwl yn medru cael mynediad gwell at lwybrau effeithiol o ran gofal a chymorth yn eu rhanbarth; a llefydd diogel i fynd er mwyn cael mynediad at gymorth, lleihau arwahanrwydd ac yn cefnogi iechyd meddwl positif. Rydym yn disgwyl ymlaen at weld sut y mae prosiectau sydd yn cael eu harwain gan gyn-filwyr o fewn y portffolios yma yn dod yn rhan o’r tirlun lleol. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn credu y bydd effaith y prosiectau yma gyda’i gilydd yn fwy o lawer na’r hyn y byddai’r prosiectau unigol yn medru ei gyflawni.”
Darllenwch mwy yma.