Newyddion     18/08/2021

Ar eich marciau: Digwyddiadau ‘Caffael ar y Corfforol!’ Adferiad Recovery yn dychwelyd ar gyfer 2021!

Bydd defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau trac a maes yn y digwyddiadau ‘Caffael ar y Corfforol!’ sydd i’w cynnal yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Abertawe  ar ddydd Mawrth 7 Medi a Pharc Eirias, Bae Colwyn ar ddydd Iau 9 Medi (gyda’r ddau ddigwyddiad yn cael eu cynnal rhwng 10:30am a 3:30pm).

Mae’r digwyddiadau blynyddol yn denu cannoedd o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar draws Cymru ond fe’u gohiriwyd y llynedd yn sgil y pandemig – ond mae’r digwyddiadau yn Ne a Gogledd Cymru yn eu hôl eleni ac yn fwy a’n well nag erioed! A ydych wedi eich ysbrydoli gan y Gemau Olympaidd? Mae ein diwrnod ymwybyddiaeth o iechyd corfforol yn rhoi cyfle i unigolion i roi cynnig ar nifer o chwaraeon a gweithgareddau gan gynnwys:-

  • Digwyddiadau trac a maes
  • Boules
  • Pêl foli
  • Tennis bwrdd
  • Cerdded nordig
  • Tynnu rhaff
  • Ras wy a llwy

Mae’r digwyddiad ‘Caffael ar y Corfforol’ wedi ei ddylunio i ychwanegu at y cymorth sydd yn  cael ei ddarparu i gleientiaid a gofalwyr fel rhan o wasanaethau lleol Adferiad Recovery er mwyn eu helpu i wneud cynnydd ym meysydd iechyd corfforol a lles eu Cynlluniau Adferiad.

Yn ogystal â rhoi cynnig ar rai gweithgareddau corfforol llawn hwyl, bydd unigolion hefyd yn cael y cyfle i dderbyn gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ynglŷn â sut y mae modd iddynt gymryd camau bychain er mwyn cynnal iechyd da drwy fwyta’n fwy iachus, gwneud mwy o weithgareddau corfforol a chael archwiliadau iechyd cyson.

Dywedodd Prif Weithredwr Adferiad Recovery Alun Thomas: “Mae’r digwyddiad ‘Caffael ar y Corfforol!’ yn hynod boblogaidd gan ei fod yn llawn egni a’n llawn hwyl. Mae pobl  yn medru cael gafael ar wybodaeth a chyngor ynglŷn â sut y mae modd iddynt wella eu hiechyd corfforol, ynghyd â chwrdd ag amryw o bobl newydd, a chymryd rhan wrth gwrs, mewn nifer o chwaraeon a gweithgareddau. Y peth gorau am y diwrnod yw bod unrhyw un yn medru cymryd rhan – nid oes rhaid i chi fod yn athletwr, dim ond bod yn hapus i roi cynnig ar bethau!”