Yr Ystafell Fyw Caerdydd

Sir:

Bro Morgannwg Caerdydd

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 6yh

Ffôn:

07796 464045

E-bost:

wynfordellisowen@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae’r Stafell Fyw yn darparu cwnsela un i un a chefnogaeth therapi grŵp. Mae’r gwasanaeth wedi ei leoli yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin, ac hefyd ar gael ar-lein ar Zoom. Mae’r gwasanaeth yn bwysig am ei fod yn wahanol i wasanaethau cwnsela eraill, gan fod ganddo ymagwedd “pob caethiwed” ac heb ddim cyfyngiad amser wrth ddarparu triniaeth a chefnogaeth. Mae’r gwasanaeth hefyd yn wybodus o’r 12 cam ac yn croesawu unrhyw un sydd angen cefnogaeth i gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at adfer neu sydd eisiau cynnal eu hadferiad parhaus. Rydym hefyd yn croesawu ac yn darparu cyngor ar gyfer aelodau’r teulu, partneriaid a ffrindiau sydd wedi eu heffeithio gan gaethiwed. Gellir darparu’r gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cynigiwn ein cefnogaeth i unrhyw un 18 oed ac uwch sy’n dweud eu bod yn adfer neu â diddordeb mewn adferiad.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Darparwn gwnsela un i un dwys i helpu cleientiaid i ddatgysylltu ac i brofi i’w hunain y gallent fyw heb ymlyniad. Darperir gefnogaeth barhaus bellach drwy sesiynau therapi grŵp, ar-lein a chymysg.

Rydym hefyd yn:

a) darparu cymorth, cefnogaeth ac ôl-ofal parhaus sy’n hygyrch ac heb gyfyngiad amser

b) taclo unigrwydd ac yn mynd i’r afael â phrofiadau anffafriol mewn plentyndod, a thrawma mewn bywyd cynnar

c) helpu i adnabod problemau iechyd meddwl parhaus ac yn atgyfeirio cleientiaid ar gyfer cymorth arbenigol pellach.

Atgyfeirio

Gall cleientiaid hunan-atgyfeirio, cael eu hatgyfeirio gan deulu / ffrindiau, neu gan sefydliadau trydydd sector a gweithwyr proffesiynol iechyd.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost isod os gwelwch yn dda.