Am y Prosiect
Mae Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis Adferiad yn gweithio ochr yn ochr gyda gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis y GIG yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae’r gwasanaeth wedi ei anelu ar y rhai hynny sydd wedi profi episod o seicosis, ac yn anelu i helpu gyda’r adferiad yn ystod camau cynnar seicosis , sgitsoffrenia a chyflwyniadau eraill o symptomau sgitsoffrenia. Mae’r gwasanaeth yn bwysig oherwydd, yn aml, gyda chyflyrau megis seicosis a sgitsoffrenia, mae llawer o rwystrau mae’r rhai sydd wedi derbyn diagnosis yn eu hwynebu yn ddyddiol. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau iechyd meddwl eraill megis iselder, gorbryder, anreoleiddio emosiynol a llawer mwy. Yn ogystal â’r rhain mae problemau ffisiolegol megis dirywiad mewn iechyd corfforol, rhoi pwysau ymlaen, a dirywiad mewn ffitrwydd cardiofasgwlaidd hefyd yn heriau a wynebir.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae ein gwasanaeth yn darparu cefnogaeth ac ymyraethau ar gyfer y rhai hynny o bob oed rhwng 14 a 25 oed sy’n profi episod cyntaf o seicosis. Mae ein defnyddwyr gwasanaeth yn byw ym mhob ardal o Gaerdydd a Bro Morgannwg.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Rydym yn cymryd ymagwedd a arweinir gan gleientiaid, sy’n cynnwys ymweliadau un i un sydd wedi’u teilwra i anghenion personol ac amgylchiadau’r claf, yn hytrach nag ymagwedd “un maint i bawb”. Mae ein gwasanaeth yn trin pob claf fel unigolyn sydd â’r annibyniaeth a’r cysur i ddewis sut maent yn cael mynediad i’r gwasanaeth. Rhoddir gyngor gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl profiadol fewn y tîm ehangach Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis, yn cynnwys ymgynghorwyr seiciatrig, therapyddion galwedigaethol, arbenigwyr iechyd corfforol, a nifer o seicolegwyr a nyrsys profiadol. Mae’n hymagwedd hefyd yn cynnwys gweithgareddau cymunedol ac, oherwydd ein bod wedi partneru ein gwasanaeth gyda chyrff eraill, gallwn gynnig ystod eang o weithgareddau sy’n anelu i adeiladu ar hyder, hunan-werth, gorbryder a llesiant meddyliol cyffredinol ein cleifion.
Atgyfeirio
Mae’r cleifion a welwn ac y darparwn gefnogaeth ar eu cyfer yw’r rhai hynny sy’n cael mynediad i’r gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis yn y GIG, ble mae’r cydlynwyr gofal ar gyfer yr unigolion hyn yn gweld ei fod yn addas i’w cleifion i gymryd rhan mewn ymyrraeth seicogymdeithasol. Derbynnir atgyfeiriadau gan unrhyw un, yn cynnwys hunan-atgyfeiriadau.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth neu’r broses atgyfeirio, yna cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.