Am y prosiect
Cyflwyniad: Roedd y gwasanaeth Ymyriad Cyfnod Allweddol gan Awdurdod Lleol Ceredigion wedi ei sefydlu fel prosiect peilot gyda’r ddarpariaeth yn ffocysu ar amseroldeb y camau gweithredu a’r atgyfeiriadau sydd yn ffurfio pecyn o gymorth ar gyfer rhai o’r bobl fwyaf caotig a bregus yng Ngheredigion. Mae’r peilot wedi ei ddatblygu er mwyn cwrdd â’r amcanion yma ynghyd a gwella’r systemau ail-gartrefu brys fel ‘Housing First’. Bydd y gwasanaeth ar gael i unrhyw un yng Ngheredigion sy’n 16 mlwydd oed a’n hŷn a heb unrhyw lety ac sydd yn meddu ar anghenion sy’n gyson gyda’r trothwy yn y Matrics Asesu Risg. Y Wallich a’r Gymdeithas Gofal yw’r ddau ddarparwr cynradd.
Roedd Comisiynwyr Ceredigion wedi nod fod y Cynllun angen Darparwr Iechyd Meddwl Arbenigol. Roedd y Comisiynwyr (Martin Gillard) wedi dod at Adferiad Recovery er mwyn cefnogi’r sawl sydd yn profi Iechyd meddwl.
Mae Adferiad Recovery wedi gweithio’n agos ag Awdurdod Lleol Ceredigion a’r Wallich.
Mae gwasanaeth Adferiad yn gweithio gyda phob unigolyn drwy gynnig cymorth yn ymwneud gyda thai.
Mae’r gwasanaeth yn Wasanaeth Ymyriad Cyfnod Allweddol, lle’r ydym yn gweithio gyda’r Wallich sy’n arwain ar gyfer y prosiect ac yn atgyfeirio at Adferiad pan eu bod wedi asesu unigolion newydd. Rydym yn bwriadu ehangu’r gwasanaeth pan ein bod yn derbyn mwy o atgyfeiriadau.
Yn darparu cymorth i’r grŵp cleient i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Mae Tîm Adferiad yn cynnig cymorth i helpu unigolion i:
- Mynychu apwyntiadau
- Cyllid – talu biliau
- Rhyngweithio gyda’r gymuned – annog a chaniatáu cleientiaid i deimlo’n rhan o’r gymuned (lleihau arwahanrwydd ac adeiladu hyder)
- Adeiladu cyfeillgarwch gyda’u cymheiriaid
- Mynychu grwpiau celf, cerddoriaeth a’n archwilio cyfleoedd newydd
- Cyfeirio at wasanaethau eraill pan fydd angen. Yn gweithio ag asiantaethau eraill er mwyn hyrwyddo byw’n annibynnol
- Gweithio ar Sgiliau Byw Bob Dydd yn Annibynnol
- Mae’r gwasanaeth yn ceisio annog pobl i gymryd rhan yn y gymuned drwy wirfoddoli, mynychu grwpiau gweithgaredd gan Adferiad neu fudiadau eraill.
Mae’r Gwasanaeth yn cael ei ariannu gan HSG yr Awdurdod Lleol
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Iechyd meddwl
Mae modd gwneud atgyfeiriadau drwy’r Tîm Iechyd Meddwl cymuned/Bwrdd Iechyd/HSG drwy’r Wallich.