Uned Dadwenwyno Cleifion Mewnol Hafan Wen, Wrecsam

Sir:

Conwy Gwynedd Sir Ddinbych Sir Fflint Wrecsam Ynys Môn

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

24 awr
7 diwrnod yr wythnos

Ffôn:

03001 115577

E-bost:

referrals@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae uned dadwenwyno cleifion mewnol Hafan Wen wedi ei leoli ar safle Ysbyty Maelor Wrecsam ac yn darparu ystod hyblyg o gyfundrefnau dadwenwyno cyffuriau ac alcohol i gleifion y GIG a chleifion preifat mewn amgylchedd diogel. Mae ein gwasanaeth yn darparu gofal o ansawdd uchel gyda chymorth gweithwyr proffesiynol profiadol a gwybodus. Arweinir y driniaeth gan seiciatrydd ymgynghorol a rheolwr gwasanaeth, gyda chefnogaeth rowndy cloc gan staff nyrsio cymwys.

Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth, bydd cleifion yn gallu datblygu ystod o strategaethau ymdopi i sicrhau adferiad parhaus ac ymatal.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae Hafan Wen yn gweithio gyda chleifion sydd yn 18 oed ac uwch sydd â pherthynas broblemus gydag alcohol, sylweddau ac/neu gamblo.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae Hafan Wen yn grymuso cleifion gydag ystod o ymyrraethau seico-gymdeithasol ar sail tystiolaeth, wedi eu datblygu a’u hadolygu’n rheolaidd gan ein seicolegydd clinigol. Mae’r ymyrraethau hyn yn tynnu ar ystod o dechnegau ac ymagweddau ar sail tystiolaeth, yn cynnwys Therapi Gwella Cymhelliant, Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, ymwybyddiaeth ofalgar a Therapi Derbyn ac Ymrwymiad; ac ystod o dechnegau atal atgwympo a strategaethau ymdopi.

Yn gyffredinol, darparwn wasanaeth ymatebol, hyblyg a chlinigol-effeithiol sy’n eich paratoi i barhau ar eich siwrnai adferiad.

Atgyfeirio

Gall cleientiaid o Ogledd Cymru gael mynediad i’r gwasanaeth hwn drwy eu gwasanaeth cyffuriau neu alcohol lleol drwy gwblhau ffurflen atgyfeirio, canlyniadau prawf gwaed diweddar, ac adolygiad gan eu meddyg gwasanaeth SMS cymunedol lleol.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â:

Cydlynydd Atgyfeirio Chelsea Campbell: 07580 365026 / chelsea.campbell@adferiad.org

Cydlynydd Atgyfeirio, Leah Morris: 07786 263631 / leah.morris@adferiad.org

Cydlynydd Atgyfeirio, Amy Griffiths-Lineen: 07436 561573 /amy.griffiths@adferiad.org

Cydlynydd Atgyfeirio, Dan Bennett:  07813 318639 / daniel.bennett@adferiad.org