Tŷ Adferiad

Sir:

Gwynedd

Manylion cyswllt

Ffôn:

01766 513118

E-bost:

tyadferiad@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Tŷ Adferiad yn brosiect llety â chymorth chwe gwely ar gyfer menywod digartref yng Ngwynedd. Wedi’i leoli ym Mhorthmadog, mae’r prosiect yn gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill yn cynnwys y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, y Gwasanaeth Defnyddio Sylweddau a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Mae Tŷ Adferiad yn ymateb i’r angen sylweddol yn yr ardal leol am lety ar gyfer menywod, sydd wedi ei redeg gan fenywod.

Mae’r prosiect y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae Tŷ Adferiad wedi ei staffio 24 awr y dydd, ac yn agored 365 diwrnod y flwyddyn, sy’n golygu y gall preswylwyr gael mynediad i gefnogaeth pryd bynnag mae ei angen. Ochr yn ochr â’r gefnogaeth, mae preswylwyr yn elwa o’u hystafell en-suite eu hunain gyda chyfleusterau coginio a lolfa a rennir.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn menywod digartref sydd ag anghenion cymhleth ac anghenion sy’n chyd-ddigwyddol, yn aml yn gyda hanes o droseddu, defnyddio sylweddau a iechyd meddwl. Rydym yn mynd i’r afael â’r anghenion hyn gyda staff medrus a hyfforddedig iawn, sydd ar gael 24 awr y dydd, ar y cyd â gweithio amlasiantaeth i sicrhau fod cleientiaid yn cael mynediad at becyn cymorth cynhwysfawr a rhyngddisgyblaethol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein cefnogaeth yn berson-ganolog, yn wybodus am drawma, ac yn ffocysu ar alluogi’r unigolyn i gymryd rhan weithredol yn ei siwrnai. Gweithiwn gyda phreswylwyr i adnabod yr ardaloedd maent eisiau ffocysu arnynt, gan greu cynllun cefnogaeth gyda hwy i adnabod nodau ac i fesur cynnydd. Mae preswylwyr yn elwa o lety diogel, o ansawdd uchel, sydd yn ei dro yn lleihau’r galw ar wasanaethau digartrefedd lleol.

Gyda llety sefydlog a chefnogaeth gyson, gall preswylwyr fynd i’r afael â’r materion maent wedi eu hwynebu, lleihau aildroseddu, galluogi adferiad, perthynasau cadarnhaol, a gwell llesiant.

Atgyfeirio

Derbynnir atgyfeiriadau drwy Dîm Un Pwynt Mynediad Gwynedd, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Thîm Digartref Gwynedd. Gallwn dderbyn atgyfeiriadau ar gyfer rhai 18 oed ac uwch, sy’n ddigartref o fewn sir Gwynedd.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, cysylltwch trwy ddefnyddio’r cyfeiriad ffôn neu e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â 07435 967328