Am y Prosiect
Mae prosiect Garddwriaeth Trin Hyder wedi ei leoli yn Nhrethomas, Caerffili, yng Ngwent. Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth i unigolion yng Nghaerffili sy’n profi salwch meddwl difrifol. Mae staff yn cynorthwyo yn eu hadferiad a’u hadsefydliad trwy ddarparu sgiliau garddwriaeth a gwaith coed, yn ogystal â chefnogaeth cymheiriaid a chymorth i gael mynediad i gyfleoedd yn y gymuned. Y nod cyffredinol yw i ddarparu cefnogaeth er mwyn i unigolion allu cynnal iechyd meddwl a llesiant da trwy ddarparu ystod o weithgareddau. Mae’r gwasanaeth wedi ei ddylunio i rymuso unigolion ac i hyrwyddo annibyniaeth ym mhob ardal o’u bywydau.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae’r prosiect Trin Hyder yn darparu cefnogaeth i unigolion ar draws Caerffili sy’n profi salwch meddwl difrifol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r staff yn cefnogi adferiad yr unigolyn trwy ddefnyddio ymagwedd gyfannol a gweithio gyda hwy i adnabod eu hanghenion a’u nodau. Mae’r prosiect yn wasanaeth a arweinir gan gymheiriaid, gyda’r rhai hynny sy’n ei ddefnyddio’n adnabod y gweithgareddau maent eisiau ymgysylltu ynddynt bob dydd. Y nod cyffredinol yw i gefnogi unigolion i gynnal iechyd meddwl a llesiant da drwy ddarparu ystod o weithgareddau’n cynnwys garddio, gwaith coed, uwchgylchu, hyrwyddo ffyrdd o fyw’n iach yn ogystal ag adeiladu rhwydweithiau cefnogaeth cymheiriaid a chael mynediad i gyfleoedd presennol yn y gymuned. Mae’r amgylchedd ymlaciol a’r system gyfeillio a ddefnyddir ar gyfer atgyfeiriadau newydd hefyd yn annog datblygiad rhwydweithiau cefnogaeth cymheiriaid. Ar y cyfan, mae ein ffocws ar ddatblygu sgiliau i hyrwyddo annibyniaeth a llesiant.
Atgyfeirio
Derbyniwn atgyfeiriadau o’r ffynonellau a ganlyn: hunan-atgyfeiriadau, meddygon teulu, timau iechyd meddwl cymunedol, timau iechyd meddwl cefnogaeth cymheiriaid cymunedol, partneriaid yn y trydydd sector, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyngor Ar Bopeth, yn ogystal â theulu a ffrindiau. cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost isod os gwelwch yn dda.