Am y Prosiect
Mae ein gwasanaeth yn cefnogi trigolion yng Nghaerdydd a’r Fro sydd wedi cael mynediad i’r gwasanaethau argyfwng, triniaeth yn y cartref a CRU. Darparwn gefnogaeth i unigolion a effeithir gan straenwyr cymdeithasol a salwch meddwl. Anelwn i rymuso unigolion i ddatblygu eu cysylltiadau eu hunain o fewn y gymuned a strategaethau ymdopi er mwyn iddynt allu defnyddio’r sgiliau hyn pan yn wynebu straenwyr yn y dyfodol. Defnyddiwn ymagwedd gyfannol gyda’n cleientiaid, gan ddefnyddio ein Rhaglen Llesiant sy’n cynnwys pob rhan o fywyd. Mae hyn yn cynnwys: iechyd meddwl, llesiant, iechyd corfforol, addysg, tai a llety, ac arian, ynghyd â llawer mwy.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn unigolion sydd wedi cael eu hatgyfeirio atom drwy dimau argyfwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n cefnogi unigolion sy’n profi argyfwng iechyd meddwl oherwydd amgylchiadau cymdeithasol a straenwyr.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Cynigiwn ystod eang o gefnogaeth. Gallai hyn fod drwy gysylltu unigolion gyda gwasanaethau eraill megis Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian, cefnogaeth tai, gwasnaethau a sefydliadau trydydd sector, yn ogystal â chyfleoedd addysg/hyfforddiant, a gwasanaethau BAME ac LGBTQI+. Mae arwyddbostio unigolion i gefnogaeth o fewn y gymuned yn agwedd bwysig o adferiad, a’r buddion o deimlo’n gysylltiedig i’r gymuned leol hefyd yn allweddol i hyn. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth emosiynol a chyngor ar sgiliau a strategaethau ymdopi. Mae ein ymyrraethau’n canolbwyntio ar y cleient ac yn cael eu siapio gan nodau ac anghenion unigryw pob unigolyn. Yn gyffredinol, anelwn i weithio tuag at berson yn cael eu grymuso tuag at arwain eu hadferiad eu hunain ac i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i reoli straenwyr a’u llesiant emosiynol eu hunain.
Atgyfeirio
Gwneir atgyfeiriadau i’n gwasanaeth drwy’r timau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dilyn asesiad, ymyrraeth a chefnogaeth oherwydd argyfwng iechyd meddwl.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth cysylltwch drwy ddefnyddio’r manylion uchod os gwelwch yn dda.