Am y Prosiect
Mae Adferiad yn gweithio gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr a phartneriaid i ddarparu Tai’n Gyntaf drwy gefnogaeth gymunedol ar gyfer unigolion gydag anghenion cymhleth ar draws bwrdeisdref sirol Pen-y-Bont ar Ogwr. Mae Tai’n Gyntaf yn ymwagedd unigryw wedi’i anelu i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd trwy gefnogi pobl gydag anghenion cymhleth a lluosog i mewn i gartrefi sefydlog. Sefydlwyd Tai’n Gyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2019, gan ddechrau gydag Adferiad ym mis Ionawr 2022.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth sy’n ymwneud â thai ar gyfer unigolion sydd â hanes wedi ei ymwreiddio o gysgu ar y stryd, neu faterion digartrefedd, er enghraifft pan rydym yn ymgysylltu gydag unigolion sydd yn cysgu ar y stryd neu sydd mewn llety dros dro gan eu helpu i ddod o hyd i ac i gynnal llety.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r gefnogaeth yn canolbwyntio ar gryfderau a dyheadau pob person, i leihau niwed, i sicrhau cytundeb tenantiaeth/meddiannaeth ac i gynnal eu cartref a’u hannibyniaeth yn eu cymuned. Mae tîm staff Adferiad yn cefnogi unigolion gyda chyllido, iechyd meddyliol a chorfforol, yn ogystal â chefnogaeth i’r rhai hynny sydd â phroblemau defnydd sylweddau i gysylltu gyda gwasanaethau triniaeth o fewn y fwrdeisdref.
Atgyfeirio
Gwneir atgyfeiriadau i’r gwasanaeth drwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, ond rydym yn hapus i drafod unigolion posibl i’w cefnogi cyn cwblhau cais y cyngor am gymorth.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn uchod.