Switch

Sir:

Castell-nedd Port Talbot

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp Dydd Llun – Dydd Gwener

Am y Prosiect

Mae Switch yn wasanaeth alcohol a chyffuriau i sy’n cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i bobl ifanc dan 25 oed yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Nod y gwasanaeth yw lleihau’r risg a’r niwed a achosir gan ddefnyddio alcohol a chyffuriau. Nid ydym yma i bregethu ymysg pobl ifanc, dim ond i ddarparu cyngor a gwybodaeth i alluogi pobl ifanc i wneud dewisiadau diogel a gwybodus.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth gyda:

  • Cyngor a gwybodaeth; wyneb yn wyneb neu dros y ffôn
  • Cyngor rhyw mwy diogel, condomau am ddim, a chyngor a chefnogaeth i’r gymuned LGBTQ
  • Gwaith grŵp, megis sesiynau addysg ac ymwybyddiaeth mewn ysgolion neu allan o ysgolion yn yr ardal
  • Clwb ieuenctid ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a llawer o weithgareddau eraill gan gynnwys rhaglen haf
  • Cymorth ymarferol – hyfforddiant addysg cymorth cyflogaeth, budd-daliadau a chyngor ar dai
  • Cyfeirio at ymyriadau meddygol fel rhagnodi neu ddadwenwyno yn dilyn asesiad
  • Cyfeirio at adsefydlu preswyl –cyn ac ôl-gyngor a chefnogaeth.
  • Cefnogi pobl ifanc ac aelodau o’r teulu sydd wedi neu sy’n cael eu heffeithio gan ddefnydd sylweddau rhywun arall, h.y. rhieni, brodyr a chwiorydd, ac eraill arwyddocaol.

Proses Atgyfeirio

Pobl ifanc 11-25 oed

Teuluoedd nad ydynt yn ddefnyddwyr 18+ oed

I gyfeirio person ifanc 11-18 oed, cysylltwch â jane.turner@adferiad.org

Am gefnogaeth i deuluoedd, cysylltwch â rebecca.stevens@adfereiad.org

Neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn uchod

Adnoddau