Am y Prosiect
Switch yw gwasanaeth defnydd alcohol a chyffuriau Adferiad ar gyfer pobl ifanc. Mae ein gwasanaeth yn cynnwys Castell-nedd / Port Talbot ac yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth yn rhad ac am ddim i bobl ifanc 11-25 oed. Rydym hefyd yn cefnogi aelodau’r teulu a effeithir gan ddefnydd sylweddau gan anwylyn. Cynigiwn ofod diogel ar gyfer pobl ifanc i siarad am unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd ganddynt, gyda’r nod o’u helpu i ddeall caethiwed. Rydym eisiau i bobl ifanc
deimlo eu bod yn cael eu clywed ac yn cael dweud eu dweud am sut maent yn teimlo am y pethau sy’n effeithio arnynt. Yn gyffredinol, anelai’r gwasanaeth Switch i chwalu’r mythau ac i roi’r wybodaeth gyda’r nod o gael gwared o unrhyw stigma yn ymwneud â gwasanaethau gan wella bywyd pawb a effeithir, a helpu i wella’r cymunedau mae pobl yn byw ynddynt.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn blant a phobl ifanc 11-25 oed. Rydym hefyd yn cefnogi aelodau’r teulu o bob oed a allai fod yn cael trafferth o ganlyniad i ddefnydd sylweddau anwylyn.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae ein gwasanaeth yn cynnig ystod o ymyrraethau, yn cynnwys cyngor wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, a chefnogaeth ymarferol yn ymwneud ag addysg a chyflogaeth. Rydym hefyd yn darparu clinig iechyd rhywiol ac atgyfeiriadau i ymyrraethau meddygol, megis rhagnodi neu ddadwenwyno. Rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau grwp megis clybiau celf a chlybiau ieuenctid. Mae ein gwasanaeth hefyd yn mynychu ysgolion yn yr ardal, gan ddarparu sesiynau addysg ac ymwybyddiaeth yn ogystal â darparu cefnogaeth un i un yn yr ysgol. Nid ydym yma i bregethu, dim ond i ddarparu cyngor a gwybodaeth i’ch galluogi i wneud dewisiadau diogel a gwybodus. Gallwn hyd yn oed gynnig cefnogaeth niwed cudd i bobl ifanc a allai fod â rhieni neu ofalwyr sydd, o bosibl, yn defnyddio neu’n cael trafferth gyda sylweddau.
Atgyfeirio
Daw atgyfeiriadau drwy’r pwynt cyswllt cyntaf, ein ffôn am ddim ar 0300 7904044. Ond caiff rhai o dan 18 oed eu hatgyfeirio drwy gysylltu â Jane Turner (jane.turner@adferiad.org). Am gefnogaeth i deuluoedd, cysylltwch â rebecca.stevens@adfereiad.org
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod