Change Step

Sir:

Cas-gwent Cymru

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

0800 – 17:00 hrs

Am y prosiect

Mae Change Step yn gweithio gyda GIG Cyn-filwyr Cymru ac yn cynnig gwasanaeth cymorth gan gymheiriaid unigryw i gyn-filwyr sydd angen therapi yn sgil y profiadau a’r niwed sydd wedi dod o’u hamser yn y lluoedd arfog, neu’n rhoi cyngor ar sut i symud i fywyd ar ôl gadael y lluoedd arfog.

Wedi ei gefnogi gan Bwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae’n cynnig nifer o brosiectau penodol sydd yn amrywio yn ôl angen arbenigol y cyn-filwyr ac yn helpu darparwyr i ddelio gyda lles cyn-filwyr wrth iddynt symud ar eu taith drwy’r driniaeth, yn cynnig canllaw ymarferol a’r cyfle i gael gofal wedi hyn drwy’r Hybiau Galw Heibio/Hybiau Cymunedol.

Drwy ein cynnig o gydweithio arloesol, mae ein tîm o fentoriaid sydd yn gymheiriaid yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r sawl sydd yn therapyddion unigol er mwyn cefnogi cyn aelodau o’r lluoedd arfog.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Rhaid bod problemau iechyd meddwl sydd i’w hystyried gan y gwasanaeth hwn yn deillio o drawma sydd wedi ei achosi ar ôl gwasanaethu yn y fyddin.
Nid yw anafiadau o ddaw o wasanaethu yn medru derbyn therapi drwy’r Elusen Icarus neu’r Rhaglen Warrior Programme.

Rhaid i gyn-filwyr ddangos tystiolaeth o wasanaeth (Dim Lluniau, Papur Rhyddhau’r Fyddin (Llyfr Coch) er mwyn medru gwybodaeth gan yr Asiantaethau statudol er enghraifft: VNHS(W) RBL, ABF, SSAFA etc.

Mae modd gwneud atgyfeiriadau drwy wefan Adferiad.
Atgyfeiriadau asiantaeth fel sydd wedi ei nodi uchod.

Adnoddau