Rhodfa’r Llyn

Sir:

Sir Ddinbych

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

24 awr
7 diwrnod yr wythnos

Ffôn:

07935 000616

E-bost:

holly.jones@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Rhodfa’r Llyn yn wasanaeth llety â chefnogaeth wedi ei leoli yn Y Rhyl. Mae’n wasanaeth cefnogaeth yn y cartref sydd wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, wedi ei ddarparu yn y tŷ craidd ac mewn pedwar fflat clwstwr. Mae’r tŷ craidd wedi ei leoli ar Rhodfa’r Llyn a’r fflatiau wedi eu lleoli ar Heol Ffynnongroyw a Stryd Dŵr.

Mae’r tŷ wedi ei staffio 24 awr y dydd, pob dydd o’r flwyddyn, gyda’r fflatiau clwstwr yn cael cyswllt dyddiol gan staff cefnogol. Mae’r tŷ wedi ei ddodrefnu’n llawn, yn gyfforddus ac yn gartrefol, gyda mynediad i ardd fechan. Mae’r prosiect hwn wedi profi i fod yn fuddiol i unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl ac anghenion cymhleth trwy eu helpu i gaffael eu hannibyniaeth.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Darparwn gefnogaeth i unigolion 18 oed ac uwch, ar draws Sir Ddinbych. Yr unigolion rydym yn eu cefnogi yw’r rhai hynny sy’n profi salwch meddwl ac anghenion cymhleth.

Sut ydyn ni’n eu wneud?

Darparwn ein gwasanaeth mewn ffordd sy’n helpu pobl i ddod yn fwy annibynnol ym mhob ardal o’u bywyd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cefnogaeth i reoli eu llety ac i deimlo’n ddiogel
  • Help i wneud dewisiadau ac i gymryd risgiau positif
  • Cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
  • Cefnogaeth i adnabod a chael mynediad i hyfforddiant ac addysg
  • Cefnogaeth i gaffael cyflogaeth a gwaith gwirfoddol
  • Cefnogaeth ac arwyddbostio gyda materion cyllido ac ariannol
  • Help gyda rheoli materion corfforol
  • Help gyda rheoli iechyd meddwl
  • Cefnogaeth i gael ffordd o fyw iach yn cynnwys bwyd, siopa ac ymarfer corff

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Derbynnir pob atgyfeiriad gan Dîm Lwybr Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Ddinbych. Byddwn yn ystyried pob atgyfeiriad. I gael eich cyfeirio mae rhaid i chi fod dros 18 oed ac yn profi cyflwr iechyd meddwl.

Os hoffech chi gwneud cais am fwy o wybodaeth neu drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cystyllwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.