Y Rhaglen Adferiad Strwythuredig

Sir:

Conwy Gwynedd Sir Ddinbych Sir Fflint Wrecsam Ynys Môn

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp

Sesiynau: 10yb – 3yp

Ffôn:

01492 863007

E-bost:

srpenquiries@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae’r Rhaglen Adferiad Strwythuredig wedi ei lleoli ac yn cael ei darparu ar draws Gogledd Cymru. Mae hwn yn wasanaeth hanfodol ar gyfer unigolion sy’n ymrwymedig i oresgyn eu defnydd o sylweddau. Ein nod gyda’r rhaglen yw i helpu cyfranogwyr yn eu siwrnai adferiad, gan eu helpu i gynnal sobrwydd o gyffuriau ac alcohol.

Trwy ail-integreiddio i mewn i’w cymunedau a gwneud dewisiadau positif, ymdrechwn i’w grymuso i fyw bywydau boddhaus a gwerth chweil sy’n rhydd o ddibyniaeth.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae’r rhaglen yn hygyrch i bawb sy’n 18 a throsodd, sy’n teimlo eu bod mewn perygl o’u defnydd cyffuriau / alcohol yn mynd yn broblemus. Gallai hyn gynnwys unrhyw un sydd wedi cael cyfarwyddyd gan y llysoedd i fynd i’r afael â’u camddefnydd sylweddau, unrhyw berson sy’n gadael dadwenwyniad preswyl neu sydd wedi cwblhau dadwenwyniad yn y cartref. Yn bwysicaf oll, unrhyw un sydd wedi cael digon o’r
anhrefn sy’n dod o fyw bywyd mewn caethiwed.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Cefnogwn gyfranogwyr i barhau yn rhydd o gyffuriau / alcohol, ac hefyd i wella eu gweithrediad cymdeithasol gyda sgiliau bywyd gwerthfawr fydd yn:

  • Gwella ansawdd bywyd
  • Helpu i adeiladu gwytnwch ac annibyniaeth
  • Galluogi gwell perthynasau gyda theulu a ffrindiau
  • Gwneud cyfraniadau positif i’w cymuned
  • Lleihau ymddygiad troseddol
  • Cynorthwyo i gaffael sgiliau trosglwyddadwy y gellir eu cymryd i mewn i’r gweithle neu rôl wirfoddol

Atgyfeirio

Derbyniwn atgyfeiriadau dros y ffôn neu drwy’r ffurflen atgyfeirio.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod neu cysylltiwch:

Gwynedd / Ynys Môn: peter.swift@adferiad.org 0790435917

Conwy / Sir Ddinbych: sharon.gibbon@adferiad.org 07796176066

Sir Fflint / Wrecsam hayley.powell@adferiad.org 07765226713

Am unrhyw wybodaeth bellach; ac i gael mynediad i’n ffurflen atgyfeirio, cliciwch ar y ddolen isod. https://padlet.com/Learning_Development/north-wales-structured-recovery-programme-lmq4w8sjlcjrfpay