Am y Prosiect
Mae ‘Reachable Moments’ yn wasanaeth peilot newydd, sy’n cwmpasu holl Ystafelloedd Ddalfa Heddlu Dyfed Powys, sydd â’r nod o ennyn diddordeb pobl ifanc yn ystod eu cyfnod aros yn y ddalfa ar ôl eu harestio. Y nod yw defnyddio’r foment hon o fregusrwydd a myfyrio fel cyfle i ailgyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o ymddygiad troseddol yn y dyfodol a thuag at ddewisiadau bywyd iachach. Byddwn yn cynnig cymorth ac arweiniad emosiynol, a’u cysylltu â gwasanaethau tymor hir.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Byddwn yn cefnogi pobl ifanc 17 oed ac iau yn ystod cyfnod critigol: tra eu bod yn nalfa’r heddlu. Bydd y Gweithiwr Reachable Moments (RMW) yn ymatebydd cyntaf i geisiadau gan staff ddalfa’r heddlu, gan fynychu ystafelloedd cadw i ddarparu cymorth uniongyrchol, tosturiol sydd wedi’i thargedi.
Sut ydych chi’n cefnogi pobl?
Bydd gennym garfan o Weithwyr Reachable Moments wedi’u hyfforddi’n llawn, a fydd yn gweithio ar alwad. Bydd pob RMW yn cynnal asesiad gyda’r person ifanc ac yn nodi risg ac anghenion unigol, a fydd yn llunio eu cynllun gofal. Bydd gan yr RMW gyfoeth o wybodaeth ac ymyriadau i ymgysylltu â phobl ifanc mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn meithrin perthynas ac ymddiriedaeth.
Atgyfeirio
Bydd RMW yn cael ei gysylltu cyn gynted ag y bydd person ifanc, o dan 18 oed, yn mynd i mewn i ystafell ddalfa DPP.
Os hoffech drafod y broses atgyferio gyda ni neu os ydych eisiau mwy o wybodaeth, yna cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.