Gwasanaeth Sesiynol RCS

Sir:

Abertawe Conwy Gwynedd Sir Ddinbych Sir Fflint Wrecsam Ynys Môn

Manylion cyswllt

Ffôn:

01745 336442

Email:

hello@rcs-wales.co.uk

Am y Prosiect

Mae Adferiad yn darparu gwasanaethau cwnsela arbenigol ar ran Gwasanaeth Cefnogaeth Mewn Gwaith, Lles ar Gyfer Gweithio RCS (Rhyl City Strategy) ar draws Gogledd Cymru ac Abertawe, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i helpu pobl i aros yn
neu i gael yn ôl i mewn i’r gwaith, ac i fyw a gweithio’n fwy iach. Mae Adferiad yn cyfrannu eu harbenigedd o fewn y meysydd iechyd meddwl a defnydd sylweddau i’r rhaglen i gynnig cefnogaeth ar sail unigol i fynd i’r afael â materion heriol megis defnydd sylweddau neu anghenion iechyd meddwl cymhleth.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae’r gwasanaeth yn cynorthwyo pobl a gweithleoedd i ffynnu trwy gynnig cefnogaeth i gyflogai ac i bobl hunan-gyflogedig ar draws Gogledd Cymru ac Abertawe, i aros neu i gael yn ôl i mewn i’r gwaith, ac i fyw a gweithio’n fwy iach. Mae
cefnogaeth a hyfforddiant wedi ei ariannu ar gael i fusnesau bach a chanolig (hyd at 250 o weithwyr) hefyd ar gael trwy RCS, sy’n cynnig cefnogaeth llesiant a hyfforddiant sy’n anelu i helpu cyflogwyr i adeiladu gweithleoedd hapusach, iachach. Gellir gweld rhestr o’r cyrsiau sydd ar ddod yma.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae’r gefnogaeth yn gyflym, am ddim, yn gyfrinachol, ac wedi ei bersonoleiddio i bob unigolyn, gyda chwnsela a therapïau seicolegol a ddarperir ar sail un i un, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Trwy’r rhaglen, bydd gennych fynediad i gefnogaeth sy’n arbenigol ar gyfer eich anghenion chi, sy’n mynd i’r afael â materion yn cynnwys defnydd sylweddau ac anghenion iechyd meddwl cymhleth, yn ogystal â materion ehangach megis hawliau cyflogaeth, arian, neu broblemau dyled. Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth gyda: rheoli straen ac adeiladu gwytnwch; lleihau gorbryder; gwella eich iechyd corfforol; a gwneud newidiadau yn y gwaith.

Proses Atgyfeirio

Mae RCS yn atgyfeirio unigolion at Adferiad ar sail achos wrth achos, yn dibynnu ar eu hanghenion cefnogaeth. Mae cael mynediad i’r gwasanaeth yn hawdd, dim on y ffurflen ar-lein yma https://rcs-wales.co.uk/iws-referral/ neu ffoniwch RCS ar y rhif uchod.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod os gwelwch yn dda.