Prosiect Trais yn y Cartref

Sir:

Conwy

Manylion cyswllt

Ffôn:

07795 484114

E-bost:

bev.highton@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Prosiect Trais yn y Cartref Adferiad yn darparu cefnogaeth i ddeuddeg o fenywod a dynion sydd wedi ffoi o drais yn y cartref. Rydym yn berchen ar bum eiddo a ddefnyddir i ddarparu llety â chymorth; mae’r rhain yn dri fflat un lofft a dau dŷ tair lloft, sy’n ein galluogi i gartrefu teuluoedd.

Mae’r prosiect yn gweithio mewn  partneriaeth gydag Adferiad a STORI. Gydag Adferiad yn arwain, mae’r prosiect hwn yn darparu dau aelod o staff: un gan Adferiad ac un o STORI. Derbynnir atgyfeiriadau o Lwybr Conwy, ac mae Adferiad a STORI yn mynd allan gyda’i gilydd i gynnal yr asesiad a bydd staff yn gweithio’n agos at ei gilydd.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae gan ein cleientiaid ystod o anghenion. Darparwn gynllun cefnogaeth gyda’n cleientiaid sy’n rhoi eglurder o ran yr hyn a ddisgwylir ganddynt hwy a’r staff.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae’r cynllun cefnogaeth person-ganolog yn rhoi dealltwriaeth glir i’r cleient a’r Mentor Cefnogaeth Tai o nodau’r cleient a sut y byddant yn cael eu cefnogi i’w cyflawni. Rydym yn ymfalchïo yn y modd yr ydym yn cerdded gyda’n cleientiaid ar eu taith ac yn teimlo boddhad or gwaith o wybod ein bod wedi cefnogi ein cleientiad i gyflawni eu nodau.

Rydym yn mynd gyda cleientiaid i apwyntiadau,  yn bod yn eiriolwyr pan nad yw popeth yn ddealladwy, ac yn cynnwys ein cleientiaid i ddynt deimlo y gallent gymryd rheolaeth o’u bywydau eu hunain. Ein nod cyffredinol yw cefnogi cleientiaid i ailadeiladu eu bywydau, i roi’r hyder iddynt i gymryd rheolaeth yn ôl a symud ymlaen yn eu bywydau newydd.

Atgyfeirio

Cwlbheir taenlen bob dydd Llun sy’n diweddaru cynnydd ein preswylwyr a cleientiaid, ac mae atgyfeiriadau newydd a dyddiadau symud i mewn yn cael eu gyrru i Lwybr Conwy yn wythnosol. Cynhelir cyfarfodydd misol gyda’r ddau Reolwr, arweinydd y tîm a staff STORI.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.