Conwy’n Cefnogi Pobl

Sir:

Conwy

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp

Dydd Llun – Dydd Gwener

Ffôn:

07795 484114

Email:

bev.highton@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae prosiect Cefnogi Pobl Adferiad yng Nghonwy yn darparu cefnogaeth lle bo’r angen ar draws Sir Conwy i unigolion sy’n profi digartrefedd, ar fin bod yn ddigartref, sydd ag anghenion sy’n ymwneud â thai. Mae’r prosiect hwn wedi profi i fod yn fuddiol i unigolion trwy eu galluogi i aros yn eu cartrefi, yn ddiogel ac yn annibynnol, neu i ddod o hyd i lety amgen.

Ein nod cyffredinol yw i ddarparu cefnogaeth sy’n meinio er mwyn i unigolion allu cynnal tenantiaethau tymor hirach, torri’r cylchdro digartrefedd / bod yn agored i niwed, a’u galluogi i fyw yn annibynnol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn unigolion sydd yn 18 oed ac uwch ar draws Sir Conwy sy’n profi digartrefedd, iechyd meddwl gwael, sydd yn colli neu allai fod mewn perygl o golli eu tenantiaeth.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein cefnogaeth yn helpu cleientiaid i ddod yn fwy annibynnol ym mhob ardal o’u bywyd, sy’n cynnwys:

  • Cefnogaeth i reoli llety ac i deimlo’n ddiogel
  • Cefnogaeth i reoli perthynasau
  • Helpu cleientiaid i wneud dewisiadau ac i gymryd risgiau positif
  • Cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
  • Cefnogaeth i adnabod ac i gael mynediad i hyfforddiant ac addysg
  • Cefnogaeth i gaffael cyflogaeth a gwaith gwirfoddol
  • Cefnogaeth ac arwyddbostio gyda chyllido a materion ariannol
  • Help gyda rheoli materion corfforol
  • Help gyda rheoli iechyd meddwl

Atgyfeirio

Derbynnir atgyfeiriadau gan Dîm Llwybr Conwy; bydd hunan-atgyfeiriadau i Adferiad hefyd yn cael eu gyrru i Dîm Llwybr Conwy cyn i ni asesu cymhwysedd.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â sharon.jones2@adferiad.org