Am y Prosiect
Mae Plas Parkland, Swydd Gaerhirfryn yn uned triniaeth caethiwed preswyl sy’n darparu triniaeth a chefnogaeth glinigol dan reolaeth feddygol i’r rhai hynny sy’n gweithio tuag at fywyd sy’n rhydd o sylweddau. Ein nod yw i helpu, i gefnogi, ac i dywys cleientiaid ar eu siwrnai i adferiad. Arweinir y ddarpariaeth glinigol gan reolwr cofrestredig ac mae’r gwasanaeth wedi ei staffio 24/7 gan nyrsys cymwys a thîm o weithwyr cefnogol gofal iechyd profiadol.
Wedi ei osod mewn 14 acer o dir a choetir wedi ei dirlunio’n hyfryd, mae Plas Parkland Swydd Gaerhirfryn yn darparu amgylchedd sydd yn berffaith ar gyfer adferiad – gan gynnig amser i adlewyrchu a’r cyfle i ail-ffocysu ac i ail-adeiladu.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Rydym wedi ein comisiynu a’n rheoleiddio i gefnogi cleifion 18 mlwydd oed a hŷn gyda’u defnydd sylweddau, sydd wedi cael eu hatgyfeirio i’r gwasanaeth drwy’r sector statudol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Bydd y tîm yn llunio cynllun gofal unigol gyda cleientiaid yn seiliedig ar eu prif ardaloedd o bryder. Mae’r uned wedi ei staffio gan nyrsys cofrestredig 24 awr y diwrnod, a phob ystafell gyda botwm galw nyrs yn ei le i gefnogi ac i leddfu pryder. Mae gan cleientiaid fynediad i nyrs enwebedig drwy gydol eu harhosiad. Mae’r cyfleusterau yn Plas Parkland Swydd Gaerhirfryn wedi eu dylunio’n ofalus, ac yn cael eu huwchraddio’n barhaus i ddiwallu anghenion amrywiol grwpiau arbennig gleientiaid yn cynnwys lolfa a rennir, gyda chegin fechan yn cynnwys microdon, cyfleusterau gwneud te a choffi; cyfleusterau cawod ar gael mewn tri ciwbicl unigol, preifat, y gellir eu cloi, i’w defnyddio gan yr holl gleifion; cyfleusterau golchi dillad; ac ardal ffitrwydd.
Atgyfeirio
Derbyniwn atgyfeiriadau gan wasanaethau cyffuriau ac alcohol cymunedol a croesawn gleifion o ar draws y Deyrnas Unedig.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â 01254 200000