Gwasanaeth Cymorth a Gwybodaeth i Ofalwyr Sir Benfro (PCISS)

Sir:

Sir Benfro

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9.30am – 4.30pm

Ffôn:

01437 611002

E-bost:

pciss@adferiad.org

Cyfeiriad:

Crossroads House, 37 Merlins Hill, Hwlffordd, SA61 1PE

Am y prosiect

Rydym yn gwahodd gofalwyr i gofrestru a’r gwasanaeth er mwyn elwa o’r canlynol:

Gwasanaeth Allgymorth i Ofalwyr

Yn cynnig ystod eang o wybodaeth i ofalwyr di-dâl, ar sail unigol a chyfeirio at ffynonellau cymorth eraill megis asesiad gofalwr a seibiant tymor byr. Gellir trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb yn y gymuned neu yn y cartref. Mae cymorth ar gael i deulu a ffrindiau’r gofalwr hefyd.

Cerdyn Cydnabod Gofalwyr

Cerdyn sy’n nodi’r cludwr fel gofalwr di-dâl, sy’n rhoi mynediad i chi i’r Cynllun Pasbort i Hamdden a gostyngiadau mewn busnesau ac atyniadau lleol.

Cynllun Argyfwng  ar gyfer Gofalwyr

Yn nodi eich bod yn ofalwr di-dâl ac ni ddylid gadael y person yr ydych yn gofalu amdano ar ben ei hun heb oruchwyliaeth mewn argyfwng.

Canolfan Galw Heibio i Ofalwyr

Mae croeso i chi alw i mewn i’n swyddfeydd am wybodaeth.

Gazette Gofalwyr

Yn cynnwys gwybodaeth ac erthyglau o ddiddordeb i ofalwyr di-dâl.

Digwyddiadau Gofalwyr

Yn darparu digwyddiadau am ddim drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Wythnos Gofalwyr ym mis Mehefin a Diwrnod Hawliau Gofalwyr ym mis Tachwedd.

Gwasanaeth Rhyddhau Gofalwyr

Cefnogaeth i ofalwyr di-dâl cleifion mewnol yn Ysbytai Sir Benfro. Cefnogaeth gyda sgyrsiau a mewnbwn i ofal cleifion a chynlluniau rhyddhau. Darparu gwybodaeth, cyfeirio ac asesiadau gofalwyr.

Cymorth Rhyddhau Cymunedol

Rhoi gwybodaeth, cyngor, cyfeirio ac atgyfeiriadau yn y gymuned i ofalwyr di-dâl. Sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael mynediad at gymorth yn y gymuned er mwyn helpu cynnal eu hiechyd a’u lles eu hunain fel gofalwr.