Gwasanaeth Noddfa Plant a Phobl Ifanc Abertawe a Chastell-Nedd Port Talbot

Sir:

Abertawe Castell-nedd Port Talbot

Manylion cyswllt

Ffôn:

01792 399676

Am y Prosiect

Mae ein Noddfa Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi ei leoli yn Llansamlet, Abertawe, yn wasanaeth sy’n cynnig amgylchedd diogel a chefnogol sydd wedi ei ddylunio’n benodol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc. Mae ein gwasanaeth yn darparu cefnogaeth meddyliol ac emosiynol i unigolion ifanc sy’n wynebu gwahanol heriau. Mae’r gefnogaeth a gynigir wedi ei theilwra i gyfarfod anghenion pob unigolyn, a gallai gynnwys cefnogaeth un i un, rhaglenni addysgiadol, a gweithgareddau hamdden. Mae’r Noddfa’n adnodd hanfodol, sy’n helpu i gefnogi datblygiad unigolion ifanc iach, gwydn ac abl ac yn cyfrannu tuag at fywiogrwydd y gymuned ehangach. Yn gyffredinol, anelwn i feithrin gwytnwch, hyrwyddo iechyd meddwl, a gwella llesiant cyffredinol ein hymwelwyr.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn blant a phobl ifanc sy’n profi heriau emosiynol, cymdeithasol, neu iechyd meddwl. Mae’r Noddfa’n darparu amgylchedd meithringar ble gall unigolion dderbyn cefnogaeth wedi ei theilwra i’w hanghenion penodol, gan eu helpu i adeiladu gwytnwch a gwella eu llesiant meddyliol. Mae gan ein cyfleuster yr adnoddau i gynnig cefnogaeth unigol a chefnogaeth grwp, gan sicrhau bod pob person yn cael mynediad i’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer eu twf a’u hadferiad personol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Cefnogwn blant a phobl ifanc drwy ymagwedd gyfannol sy’n cynnwys cefnogaeth un i un, cefnogaeth grwp, ac amrywiaeth o weithdai datblygiadol. Mae ein rhaglenni wedi eu dylunio nid yn unig i fynd i’r afael ag anghenion iechyd emosiynol a meddyliol ar unwaith ond hefyd yn paratoi ein cleientiaid gyda strategaethau a sgiliau ymdopi tymor hir. Mae’r gefnogaeth gynhwysfawr yma yn helpu i feithrin gwytnwch unigol a sgiliau cymdeithasol, sydd o fudd sylweddol i’r unigolion a’u teuluoedd.

Atgyfeirio

Yn y Noddfa, darparwn gefnogaeth i blant a phobl ifanc o 12 oed hyd at eu penblwydd yn 18. Mae’n bwysig nodi bod ein gwasanaethau ar gael yn benodol i unigolion sy’n byw yn ardal Abertawe / Castell-nedd Port Talbot. I gael mynediad i’n cefnogaeth, mae’n rhaid i unigolion gael eu hatgyfeirio drwy broses atgyfeirio’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (‘CAMHS’).

Os hoffech fwy o wybodaeth, yna cysylltwch drwy ddefnyddio’r manylion isod os gwelwch yn dda.