Am y Prosiect
Mae Newid Cam yn cynnig cymorth effeithiol i gyn-filwyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr yng Nghymru – gan eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau cymorth hanfodol a mynd i’r afael â straen difrifol a materion cysylltiedig. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan gynfilwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n deall anghenion unigryw y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Mae ein tîm o fentoriaid cymheiriaid yn defnyddio eu profiad eu hunain i gefnogi cyd-gyn-filwyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr, gyda’r offer a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt i wynebu heriau yn eu bywydau a rheoli eu taith adferiad.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Rydym yn cefnogi unrhyw un sydd wedi bod yn aelod o Lluoedd Arfog y DU, arferol neu’n filwyr wrth gefn, a’u teuluoedd a’u gofalwyr i fynd i’r afael â straen difrifol a materion cysylltiedig.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Rydym yn defnyddio’r cysylltiad a’r brawdoliaeth a rennir gan gyn-filwyr y Lluoedd Arfog i helpu pobl i newid eu bywydau er gwell. Mae ein tîm o fentoriaid cymheiriaid yn defnyddio eu profiad eu hunain i helpu cyn-filwyr, eu teuluoedd a’u
gofalwyr i gynllunio ar gyfer adferiad. Rydym yn cynnal asesiad llawn o holl ofynion ein cleientiaid ac yn cynnig cyngor un-i-un ac arweiniad ymarferol cyhyd ag y bo angen – rheoli mynediad at arbenigwyr, sefydliadau cymorth a gweithgareddau sy’n gweddu orau i’w hanghenion. Mae ein dull mentora cymheiriaid wedi ei brofi ac yn effeithiol, mae ymchwil yn dangos bod pob £1 sy’n cael ei wario ar Newid Cam yn arwain at tua £7 mewn buddion cymdeithasol – gan gynnwys gwell lles, llai o unigrwydd, a bywyd cartref mwy sefydlog i gyn-filwyr a chynilion i wasanaethau iechyd.
Atgyfeirio
Mae cyn-filwyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr yng Nghymru yn gymwys i gael y gwasanaeth.
Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni neu ofyn am fwy o wybodaeth, yna cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion uchod.
Rhaid bod problemau iechyd meddwl sydd i’w hystyried gan y gwasanaeth hwn yn deillio o drawma sydd wedi ei achosi ar ôl gwasanaethu yn y fyddin. Nid yw anafiadau o ddaw o wasanaethu yn medru derbyn therapi drwy’r Elusen Icarus neu’r Rhaglen Warrior Programme. Rhaid i gyn-filwyr ddangos tystiolaeth o wasanaeth (Dim Lluniau, Papur Rhyddhau’r Fyddin (Llyfr Coch) er mwyn medru gwybodaeth gan yr Asiantaethau statudol er enghraifft: VNHS(W) RBL, ABF, SSAFA etc