Am y Prosiect
Mae’r gwasanaeth wedi ei leoli yn Nhreorci, Rhondda Cynon Taf. Mae’n wasanaeth adeilad newydd sy’n darparu 5 fflat hunangynhwysol, ynghyd â swyddfa i’r staff a Lolfa Gymunol. Mae’r gwasanaeth wedi ei staffio 24 awr y dydd ac mae gan yr unigolion eu tenantiaethau eu hunain (Cytundebau Llety â Chefnogaeth). Mae ein gwasanaeth yn darparu amgylchedd diogel ar gyfer unigolion i reoli eu hiechyd meddwl a’u defnydd sylweddau. Cefnogir unigolion hefyd i reoli eu tenantiaethau eu hunain, neu i fynychu apwyntiadau a.y.y.b. Ein nod cyffredinol yw i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar ble gall defnyddwyr gwasanaeth ddatblygu eu sgiliau byw’n annibynnol.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn unigolion sydd wedi profi materion iechyd meddwl, neu sydd ag anghenion iechyd meddwl a defnydd sylweddau sy’n cyd-ddigwydd.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Cefnogwn bobl tuag at eu hadferiad, gan weithio gyda’r unigolyn a’u gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl i ddarparu gwasanaeth sy’n berthnasol i’w anghenion. Rydym yn cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth i fod mor annibynnol, gweithgar a diogel â phosibl. Gwnawn hyn drwy eu hannog i gyfranogi yn eu cymunedau, i gymryd rhan mewn grwpiau a gweithgareddau yn eu hardal leol. Rydym hefyd yn annog pobl i adeiladu perthynasau o fewn y gymuned, i baratoi ar gyfer byw’n annibynnol, a gweithiwn gydag unigolion i reoli eu hanghenion iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Anogwn y bobl rydym yn eu cefnogi hefyd i barhau i gael perthynasau gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd. Pan mae pobl yn symud i mewn, maent yn cael eu cefnogi i brynu yr hyn maent ei angen ar gyfer eu fflatiau, megis nwyddau gwyn, dodrefn, offer ty a.y.y.b.
Atgyfeirio
Daw pob atgyfeiriad i’r gwasanaeth trwy’r Cydlynydd Gofal neu’r Rheolwr Gofal ar gyfer pob unigolyn. Bwriedir y gwasanaeth hwn ar gyfer trigolion (neu cyn-drigolion) Rhondda Cynon Taf.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, nneu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.