Am y Prosiect
Mae’r cynllun yn cynnwys Ty Craidd a 4 o fflatiau Clwstwr. Mae’r Ty Craidd yn Park Street yn dy teras 4 llofft, a’r 4 Fflat Clwstwr un lloft yn Tonna Road, Maesteg. Mae’r prosiect yn cynnig, yn y Ty Craidd, llety â chefnogaeth i hyd at bedwar unigolyn. Yn y pedwar Fflat Clwstwr yn Tonna Road, mae gan unigolion denantiaeth gyda Chymdeithas Tai Hafod. Mae’r unigolion yn Tonna Road naill ai wedi camu i lawr o Park Street, neu o’r ysbyty neu brosiectau eraill 24 awr. Ar y cyfan, mae ein prosiect yn galluogi unigolion i fyw yn fwy annibynnol yn y gymuned, tra’n parhau i dderbyn lefel o gefnogaeth gan yr un tîm o staff..
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cynigiwn gefnogaeth i oedolion 18 mlwydd oed ac uwch, sydd â diagnosis iechyd meddwl.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r gefnogaeth a gynigiwn yn hyrwyddo adferiad ac annibyniaeth ein defnyddwyr gwasanaeth. Cwblheir gynlluniau cefnogaeth a’u hadolygu gyda’r preswylydd, a hynny o leiaf pob chwarter. Y prif anghenion cefnogaeth presennol yw i:
- Ddysgu sgiliau byw’n annibynnol, bwyta’n iach a pendantrwydd (i gadw’n ddiogel)
- Gaffael gweithgareddau, diddordebau, hyfforddiant ac addysg ystyrlon
- Gynnig anogaeth i chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth
- Ddarparu cefnogaeth emosiynol a ddarperir gan staff
Atgyfeirio
Gallwn dderbyn atgyfeiriadau o Ward 14, YsbytyTywesoges Cymru, a’r cydlynwyr gofal yn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.