Am y Prosiect
Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Adferiad yn cael ei ddarparu i breswylwyr sy’n dioddef salwch meddwl difrifol ac sydd ag anghenion sy’n gysylltiedig â thai ar draws tri adeilad llety â chymorth ac un fflat un denantiaeth ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Darperir y prosiect cymorth tai hwn yn Wrecsam dros saith diwrnod yr wythnos rhwng 9yb ac 8yh (mae un o’r adeiladau a’r fflat tenantiaeth sengl yn derbyn cyswllt / ymweliadau dyddiol pan fydd y preswylwyr ei angen). Mae’r prosiect hwn wedi bod o fudd i unigolion drwy eu galluogi i weithio ar eu sgiliau bywyd bob dydd a’u galluogi i symud ymlaen tuag at fyw’n annibynnol, atal ailwaelu a digartrefedd.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Rydym yn darparu cymorth i unigolion 18 oed ac uwch sy’n profi salwch meddwl difrifol ac a allai fod ag anghenion dibyniaeth ar sylweddau, mewn llety â chymorth a rennir ac un fflat tenantiaeth sengl.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Darperir ein gwasanaeth mewn ffordd sy’n helpu pobl i ddod yn fwy annibynnol ym mhob rhan o’u bywyd, gan gynnwys:
• Cefnogaeth i reoli llety a theimlo’n ddiogel
• Helpu i wneud dewisiadau a chymryd risgiau cadarnhaol
• Cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
• Cefnogaeth i nodi a chael mynediad i hyfforddiant ac addysg
• Cefnogaeth i ddod o hyd i gyflogaeth a gwaith gwirfoddol
• Cefnogaeth â chyllidebu a materion ariannol, a chyfeirio at wasanaethau pellach
• Help gyda rheoli materion corfforol ac iechyd meddwl