Am y Prosiect
Mae Diverse Cymru yn darparu prosiect sy’n seiliedig ar adferiad ar gyfel pobl Asiaidd, Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy’n cael eu heffeithio gan salwch meddwl. Cymerwn ymagwedd gyfannol gan ddefnyddio dulliau sy’n ffocysu ar ddatrysiad sy’n hyrwyddo adferiad, grymuso a byw’n annibynnol yn y gymuned. Mae’r prosiect hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth mewn materion sy’n ymwneud â iechyd meddwl pobl Asiaidd, Dduon a Lleiafrifoedd ethnig ac i weithio i helpu i leihau gwahaniaethu ac anghyfartaledd. Gallwn gynnig dealltwriaeth a chefnogaeth anfeirniadol mewn ardaloedd fydd yn helpu i ffocysu ar adferiad, megis: cefnogaeth unigol ac eiriolaeth, cefnogaeth gymunedol, gwybodaeth a chyngor, cyfleoedd cyfeillio a gwirfoddoli, yn ogystal ag arwyddbostio ar gyfer unigolion, aelodau’r teulu a gofalwyr.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn bobl o gymunedau Asiaidd, Lleiafrifol Du ac ethnig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, sy’n 18 oed ac uwch sydd gyda salwch iechyd meddwl.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Gall ein prosiect helpu defnyddwyr i osod nodau ac i adolygu eu cynnydd i gyrraedd eu llawn botensial mewn ardaloedd o’u bywyd sy’n cynnwys:
- Llesiant emosiynol a meddyliol
- Hyder a hunan-barch
- Troseddu a chamddefnydd sylweddau
- Iechyd corfforol
- Tai / rheoli tenantiaethau
- Sgiliau cyfathrebu a iaith
- Addysg a hyfforddiant
- Sgiliau bywyd
- Arian (a budd-daliadau)
- Anghenion diwylliannol a chrefyddol
- Perthynasau teulu a magu plant (yn cynnwys camdriniaeth yn y cartref)
- Rhwydweithiau cefnogaeth
- Swyddi a gwirfoddoli
- Cymdeithasol a hamdden
Atgyfeirio
Derbynnir atgyfeiriadau gan: sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, gwithwyr cefnogol tai, gwasanaethau cymdeithasol, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, meddygon teulu, a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill, yn ogystal â sefydliadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â chloe.kalter@diverse.cymru