Hwb Gofalwyr Gwent a Spoke

Sir:

Blaenau Gwent Caerffili Casnewydd Sir Fynwy Torfaen

Manylion cyswllt

Ffôn:

01495 367564

E-bost:

gwentcarershub@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae ein canolfan yng Ngwent wedi ei lleoli yng nghanol tref Pontypwl. Cynigiwn ofod diogel ar gyfer gofalwyr di-dâl i siarad amdan eu hunain a’u rôl gofalu. Gyda’n gilydd, gallwn adnabod sut y gall Canolfan Gofalwyr Gwent a gwasanaethau lleol eraill eich helpu i ddeall, i gyflawni ac i dyfu fel gofalwr di-dâl. Mae edrych ar ôl eich llesiant eich hun yn hanfodol i chi ac i’r person rydych yn gofalu amdanynt. Rydym yn deall pa mor anodd yw hi i fod yn ofalwr di-dâl ac rydym yma i’ch cefnogi.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Darparwn gefnogaeth i bob gofalwr di-dâl megis: gofalwyr ifanc, rhieni sy’n ofalwyr, partneriaid sy’n ofalwyr, brodyr neu chwiorydd sy’n ofalwyr, a ffrindiau sy’n ofalwyr.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth gyda:
• Darparu cyngor a chefnogaeth i bob gofalwr di-dâl
• Arwyddbostio i ffynonellau eraill o gefnogaeth i ymateb i anghenion penodol
• Atgyfeiriad ar gyfer asesiad gofalwr
• Atgyfeiriad i’r awdurdod lleol
• Cefnogaeth un i un, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn
• Cymorth i wneud cais i’n cynllun grantiau bach
• Grwpiau gofalwyr
• Digwyddiadau gofalwyr
• Os na allent ddod i’n canolfan, gallwn helpu defnyddwyr gwasanaeth i weld ein gweithwyr allgymorth mewn digwyddiadau yn eu hawdurdod lleol
• Llesiant corfforol a meddyliol
• Llesiant emosiynol
• Llesiant ariannol

Atgyfeirio

Mae pob gofalwr di-dâl yng Ngwent yn gymwys ar gyfer ein gwasanaeth. Mae gennym broses atgyfeirio agored sy’n cynnwys hunan-atgyfeiriadau.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.