Gwasanaethau Iechyd Meddwl Ataliol Sir Gaerfyrddin

Cefnogi pobl gyda’u hiechyd meddwl yn ardaloedd Aman, Llanelli a Gwendraeth.

Sir:

Sir Gaerfyrddin

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Rhydaman – Dydd Llun 10yb-12yp

Llanelli – Dydd Mawrth 1yp – 3yp , Dydd Gwener 1.30yp – 3.30yp

Ffôn:

01269 597829

Email:

barbara.cook@adferiad.org

Cyfeiriad:

Canolfan Tŷ Aman, 2 Y Stryd Fawr, Rhydaman, SA18 2LY.

Canolfan Y Llusern, Eglwys Hall Street, Llanelli, SA15 3BB.

Am y prosiect

Beth allwn ni ei wneud?

Ein nod yw i gefnogi eich iechyd meddwl yn well trwy ymgysylltu â chi fel unigolyn. Bydd ein staff hyfforddedig yn mynd drwy ‘sgwrs llesiant’, gan ffocysu ar yr hyn sy’n bwysig i chi – eich anghenion, eich nodau a’ch deheadau unigol chi.

Bydd hyn yn bwydo i mewn i gynllun llesiant unigryw sy’n edrych ar bob ardal o’ch bywyd, gan ein galluogi i ddarparu cefnogaeth sydd wedi ei theilwra ar eich cyfer chi.

Mae bob person rydym yn eu cefnogi yn cael cynnig hyd at chwe sesiwn cymorth.

Mae hyn yn galluogi ein staff i wneud yn siwr fod y cynllun yn gweithio i chi, waeth beth yw eich sefyllfa neu brofiad.

Pa gefnogaeth ydan ni’n ei gynnig?

Cefnogwn bobl deunaw oed ac uwch trwy ddarparu mynediad i wybodaeth a chyfleoedd. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth gyda’r canlynol:

  • Llesiant
  • Annibyniaeth
  • Gwytnwch
  • Ansawdd bywyd

Rydym hefyd yn cynnig llwybr atgyfeirio canolog i gefnogaeth arall (drwy’r hybiau).

Galw i mewn:

Mae grwpiau galw i mewn ar gael yn ardaloedd Rhydaman a Llanelli ar ddydd Llun, Mawrth a Gwener.

Rhydaman – Dydd Llun 10yb – 12yp

Llanelli – Dydd Mawrth 1yp – 3yp (grŵp gweithgareddau awyr agored), Dydd Gwener 1.30yp – 3.30yp

Cymhwysedd / Atgyfeiro

Rydym yn croesawu hunan-atgyfeiriadau, atgyfeiriadau gan feddygon teulu, atgyfeiriadau drwy hwb Cysylltu Sir Gâr a sefydliadau eraill Trydydd Sector. Dylid gwneud y cysylltiad cychwynnol drwy Barbara Cook ar y manylion cyswllt uwchben.

Adnoddau

Type
Name
Tags