Am y Prosiect
Nod Gwasanaethau Ataliol Iechyd Meddwl Sir Gaerfyrddin yw i gefnogi unigolion yn well gyda’u hiechyd meddwl trwy gynnig cefnogaeth wedi ei deilwra sy’n ymgysylltu gyda defnyddwyr fel unigolion. Mae ein staff hyfforddedig yn mynd drwy ‘sgwrs llesiant’, sy’n ffocysu ar beth sy’n bwysig i ddefnyddwyr megis eu hanghenion unigol, eu nodau a’u dyheadau. Mae hyn yn bwydo i mewn i gynllun llesiant unigryw sy’n edrych ar bob ardal o fywyd unigolion, gan ein galluogi i ddarparu cefnogaeth sydd wedi ei deilwra’n benodol i ddefnyddwyr.
Sut ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn unrhyw un gyda phroblem iechyd meddwl sy’n byw yn ardaloedd Llanelli, Cwm Gwendraeth ac Aman.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Cynigir hyd at chwe sesiwn cefnogaeth i bob person rydym yn eu cefnogi, sy’n galluogi ein staff i sicrhau bod ein cynllun yn gweithio i bob unigolyn, beth bynnag yw eu sefyllfa neu brofiad. Mae ein gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth gyda: llesiant,
annibyniaeth, gwytnwch, ac ansawdd bywyd. Rydym hefyd yn cynnig llwybr atgyfeirio canolog i gefnogaeth eraill drwy’r hybiau a ddarperir gan ddarparwyr cymeradwy eraill y Gwasanaethau Ataliol.
Atgyfeiro
Gellir atgyfeirio unrhyw un dros 18 oed i mewn i’r gwasanaeth. Derbynir atgyfeiriadau drwy hunan-atgyfeiriadau gan unigolion, atgyfeiriadau proffesiynol gan feddygon teulu a’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, yn ogystal â gwasanaethau Trydydd Sector eraill drwy’r hybiau Gwasanaethau Ataliol.
Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â charlotte.smith@adferiad.org