Am y Prosiect
Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Adferiad wedi ei leoli mewn dwy ysbyty breifat: Aber-bîg ac Aderyn. Mae ein Gwasanaeth Eiriolaeth yn darparu’r gefnogaeth sydd ei angen ar gleifion i sicrhau bod eu barn a’u dymuniadau’n cael eu clywed ac y gallent
ddeall ac ymarfer eu hawliau’n llawn. Nod y gwasanaeth yw i rymuso ein cleientiaid i hunan-eirioli ac i siarad drostynt eu hunain.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae’r Eiriolwr yn cefnogi cleifion mewn ysbytai sydd â salwch meddwl difrifol ac ar leoliadau tymor hir fel arfer.
Sut ydyn ni’n eu wneud?
Mae ein Eiriolwyr yn darparu gwasanaeth sydd wedi ei bersonoleiddio, sy’n sensitif i anghenion a sefyllfa pob unigolyn. Byddant yn gwrando’n ofalus ar farn a phryderon y cleifion ac yn eu cefnogi i wneud dewisiadau gwybodus. Mae hon yn broses sy’n grymuso, ble mae’r eiriolwr yn cymryd rôl hwyluso, ddim yn rhoi eu barn eu hunain nac yn gwneud dyfarniadau, ond yn darparu cefnogaeth ymarferol sy’n galluogi’r cleient i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae hyn yn cynnwys:
- Darparu gwybodaeth a chyngor ar hawliau cyfreithiol
- Gwrando ar bryderon a helpu’r claf i archwilio beth fyddai’n gwella’r sefyllfa
- Cefnogi cleifion i gysylltu â’r bobl/asiantaethau perthnasol neu ei wneud ar eu rhan
- Mynychu Tribiwnlysoedd Iechyd Meddwl ac adolygiadau meddygol
- Cefnogi’r claf i ddatblygu sgiliau hunan-eirioli, yn ogystal â chofnodi eu dymuniadau a rhannu’r rhain gyda gweithwyr proffesiynol
- Cysylltu rhwng y claf a staff y ward
Atgyfeirio
Mae’r gwasanaeth hwn yn agored i gleifion yn ysbytai Aber-bîg ac Aderyn yn unig. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y gwasanaeth gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod os gwelwch yn dda.