Am y Prosiect
Mae Gwasanaeth Ymyrraethau Troseddwyr Dyfodol yn ddarpariaeth partneriaeth integredig ar gyfer De Cymru ac ar gyfer carchardai sector gyhoeddus HMP Caerdydd, HMP Abertawe, a HMP Usk/Prescoed. Nod y gwasanaeth yw i fynd i’r afael ag achosion troseddu sy’n ymwneud â chyffuriau ac/neu alcohol a’r risg o niwed i unigolion, teuluoedd, a chymheiriaid, trwy ddarparu ymyrraethau unigol a grwp therapiwtig ar gyfer defnydd cyffuriau ac alcohol ac i leihau’r lefelau ail-droseddu. Unwaith rydym wedi adnabod anghenion unigol person, rydym yn agor ystod o opsiynau iddynt i ymgysylltu â hwy, o ymyrraethau iechyd a llesiant wedi’u targedu, i gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chreadigol.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae Dyfodol yn cyrraedd pobl ar draws De Cymru a Gwent sydd wedi dod i gysylltiad gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol oherwydd camddefnydd alcohol neu sylweddau. Darparwn ymyrraethau cyfannol sy’n helpu i lywio pobl i ffwrdd o droseddu neu gylchdro troseddu sy’n ail-adrodd.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Gweithiwn i sicrhau bod unigolion yn derbyn gofal o’r ansawdd uchaf, gan roi’r cyfle gorau iddynt i symud i ffwrdd oddi-wrth y Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol ac ymlaen i fywyd gwell. Mae Dyfofol yn darparu ystod o ymyrraethau i helpu pobl, yn cynnwys:
• Cefnogaeth ac arweiniad, strwythur a sesiynau un i un anffurfiol gydag Ymarferydd Cyfiawnder Troseddol
• Cyfleoedd iechyd a llesiant
• Cyfranogiad y teulu (pan yn briodol ac yn ddefnyddiol)
• Gweithgareddau dargyfeiriol
• Ymyrraethau yn benodol i ryw
• Gwasanaethau clinigol / meddygol megis triniaeth ac asesiadau gan nyrsys a doctoriaid.
Atgyfeirio
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i unigolion fod o fewn HMP Caerdydd, HMP Abertawe, HMP Prescoed neu HMP Brynbuga ar hyn o bryd. Ond, mae’r consortiwm Dyfodol hefyd yn gweithredu yn HMP Parc a’r gymuned.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, nei i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.