Am y Prosiect
Mae gwasanaeth Seibiant Abertawe, wedi ei leoli yn Uplands, yn darparu seibiannau ar gyfer gofalwyr drwy gefnogi’r rhai y gofelir amdanynt yn y gymuned. Cefnogwn unigolion gyda heriau iechyd meddwl, gan gynnig arweiniad
wedi ei bersonoleiddio a chymorth i gynnal ac i adeiladu ar eu hannibyniaeth. Deallwn y gall gofalu am anwylyn fod yn llethol ar adegau, ac felly mae ein gwasanaeth yn anelu i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr a allai deimlo’n ynysig, wedi eu llethu, neu sydd angen cefnogaeth gyda’u rôl gofalu.
Darparwn ddefnyddwyr gyda’r sgiliau a chelfi i ymdopi, gan ffocysu ar ymagwedd person cyfan i ddeall ac i reoli eu hiechyd meddwl yn well. Mae hyn yn grymuso defnyddwyr i arwain bywyd boddhaus gyda llai o ddibyniaeth ar eu gofalwr.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cynigiwn gefnogaeth i unigolion 18 oed ac uwch, sy’n byw yn ardal Abertawe, sy’n profi heriau iechyd meddwl. Rydym hefyd yn cefnogi eu gofalwyr, boed nhw’n ffrindiau neu’n deulu. Mae’r gefnogaeth a gynigir wedi ei theilwra i anghenion
yr unigolyn; gellir ei ddarparu o fewn y gymuned drwy fynychu ein adeilad sydd wedi ei leoli yn ein swyddfa yn Uplands, Abertawe, neu dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Mae cefnogaeth hefyd ar gael drwy un o’r nifer o leoliadau galw i mewn rydym yn eu mynychu yn rheolaidd.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Darparwn gefnogaeth un i un a chefnogaeth cymheiriaid ar gyfer defnyddwyr. Mae ein gwasanaeth yn defnyddio ymagwedd person cyfan i gefnogaeth, gyda ffocws ar: lesiant cymdeithasol, cyflogaeth a hyfforddiant, arian, llesiant corfforol a meddyliol, yn ogystal â hunan-ofal. Anelwn i gefnogi unigolion i osod a chyflawni nodau realistig un cam ar y tro, gan hyrwyddo eu hannibyniaeth. Mae gennym hefyd grwp cerdded wythnosol ar gyfer cefnogaeth cymheiriaid a gallwn ddarparu arwyddbostio, cefnogaeth emosiynol, a chyngor.
Atgyfeirio
Mae ein gwasanaeth ar gael i unigolion dros 18 oed sy’n byw yn ardal Abertawe ac yn wynebu heriau iechyd meddwl, yn ogystal â’u gofalwyr. Mae gennym system atgyfeirio agored: gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol, ac fe wnawn eich arwain drwy’r broses. Os hoffech fwy o wybodaeth, yna cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r manylion isod os gwelwch yn dda.