Am y Prosiect
Mae’r Gwasanaeth Oedolion Priodol yn chwarae rôl hanfodol ym mhroses archwilio yr heddlu, gan sicrhau bod hawliau a llesiant pob unigolyn sy’n agored i niwed yn cael eu gwarchod ar draws yr ardaloedd sy’n cynnwys Heddlu De Cymru, Dyfed
Powys a Gwent. Tra mae’r gefnogaeth a ddarperir gan yr Oedolion Priodol am y tymor-byr, mae’n cyflawni’r pwrpas o eirioli ar gyfer unigolion sy’n agored i niwed ac yn sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod a’u trin yn deg yn ystod cyfnod hollbwysig o’r gweithrediadau cyfreithiol, gan helpu i liniaru unrhyw anghyfiawnderau posibl a magu ymddiriedaeth yn y system gyfiawnder.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth i oedolion agored i niwed ar draws ardaloedd Heddlu De Cymru, Dyfed Powys, a Heddlu Gwent pryd bynnag y mae angen Oedolyn Priodol yn y ddalfa arnynt. Mae ein gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, trwy gydol y flwyddyn.
Fel arfer bydd yr angen am Oedolyn Priodol yn cael ei benderfynu gan staff yn uned y ddalfa, fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol y ddalfa neu swyddog y ddalfa. Ein rôl yw darparu cymorth clir sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i helpu unigolion i ddeall a chymryd rhan ym mhrosesau’r heddlu, gan gynnwys cyfweliadau.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Rôl Oedolyn Priodol yw i gefnogi, cynghori, a helpu person sy’n agored i niwed sydd wedi cael eu harestio, drwy gyfweliadau gyda’r heddlu, a gweithdrefnau ffurfiol yr heddlu tra yn y ddalfa. Mae’r rôl hon yn un weithredol, ble disgwylir i Oedolion Priodol gynghori a chefnogi’r un sy’n cael ei gadw drwy’r prosesau, sicrhau bod y person yn cael eu trin yn deg gan yr heddlu, sicrhau bod hawliau’r person yn cael eu cynnal, a hwyluso’r cyfathrebu rhwng y person a’r heddlu i sicrhau eu bod yn deall popeth sydd yn digwydd iddynt.
Atgyfeirio
Gellir gwneud cais am Oedolyn Priodol ar gyfer unrhyw sefydliad sy’n cynnal cyfweliadau o dan rybudd megis yr Heddlu, Carchardai ei Fawrhydi, a sefydliadau allanol eraill dros y ffôn. Bydd Oedolion Priodol Adferiad yn mynychu achosion gydag oedolion sy’n agored i niwed yn unig.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r manylion uchod os gwelwch yn dda.