Am y prosiect
Mae’r Noddfa ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn wasanaeth y tu allan i oriau swyddfa arferol sydd yn darparu cyngor iechyd meddwl a chanllawiau i bobl ifanc yng Ngheredigion, mewn amgylchedd cefnogol yng nghanol Aberystwyth.
Mae’n wasanaeth y tu allan i oriau swyddfa arferol sydd yn darparu gwasanaeth ymarferol a therapiwtig, holistaidd, sydd yn ffocysu ar y person i bobl sydd mewn peryg o argyfwng iechyd meddwl.
Mae’r awyrgylch yn groesawgar a hyfryd, gyda lolfa, cegin/lle bwyta, cawod a chyfleuster golchi ddillad. Mae yna fannau preifat hefyd ar gyfer y sawl sydd angen amser tawel a/neu gymorth 1:2:1.
Mae’r Noddfa yn ceisio lleihau’r risg o ofal ar gyfer pobl yn eu cartrefi. Mae diogelwch a lles unigolion yn cael eu hasesu’n llawn cyn dychwelyd adref, gydag atgyfeiriadau at wasanaethau eraill fel sydd yn briodol.
Rhif ffôn Gwasanaeth Noddfa Plant a Phobl Ifanc Ceredigion yw: 07377 369 241
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Atgfyeiriadau Proffesiynol/Hunan-atgyfeiriadau
12-18 oed, byw yn ardal Ceredigion